Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Mesur perfformiad tuag at gyrraedd y nodau

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 21/05/2016

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2016.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Croes Bennawd: Mesur perfformiad tuag at gyrraedd y nodau. Help about Changes to Legislation

Mesur perfformiad tuag at gyrraedd y nodauLL+C

10Dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a

(b)gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Mewn perthynas â dangosydd cenedlaethol—

(a)rhaid iddo gael ei ddatgan ar ffurf gwerth y gellir eu fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;

(b)caniateir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol;

(c)caniateir ei fesur mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.

(4)Wrth osod carreg filltir rhaid i Weinidogion Cymru bennu —

(a)y meini prawf ar gyfer penderfynu a yw’r garreg filltir wedi ei chyflawni (drwy gyfeirio at y gwerth y mesurir y dangosydd yn ei erbyn neu’r nodwedd y’i mesurir yn ei herbyn), a

(b)erbyn pryd y mae’r garreg filltir i gael ei chyflawni.

(5)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.

(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (5), nad yw un neu ragor o’r dangosyddion cenedlaethol neu’r cerrig milltir yn briodol bellach, rhaid iddynt ei ddiwygio neu eu dwygio.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir o dan is-adran (6) neu (7), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi’r dangosyddion a’r cerrig milltir fel y’u diwygiwyd, a

(b)gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(9)Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir (gan gynnwys dangosyddion a cherrig milltir a ddiwygiwyd o dan is-adran (6) neu (7)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y cyrff cyhoeddus eraill;

(c)y personau eraill hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir dangosyddion cenedlaethol o dan is-adran (1), gyhoeddi adroddiad (“adroddiad llesiant blynyddol”) ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nodau llesiant drwy gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.

(11)Rhaid i adroddiad llesiant blynyddol o dan is-adran (10) bennu’r cyfnodau o amser y mae’r mesuriad o bob dangosydd yn berthnasol iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 10 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(c)

11Adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ystod y cyfnod o 12 mis gan ddechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol, gyhoeddi adroddiad (“adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol”) sy’n cynnwys—

(a)rhagfynegiadau ynghylch y tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol, a

(b)unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(2)Wrth baratoi adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried unrhyw gam a gymerir gan y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac asesu effaith posibl y cam hwnnw ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a

(b)ystyried yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).

(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig” yw’r nodau drafft a gynigir yn adroddiad Gweithgor Agored y Cenhedloedd Unedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (cyfeirnod dogfen y Cenhedloedd Unedig A/68/970) y cyfeirir ato ym mhenderfyniad 68/309 y Cenhedloedd Unedig a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 10 Medi 2014.

(4)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y cynhelir etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai wedi ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I4A. 11 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

12Adroddiadau blynyddol gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt at gyflawni eu hamcanion llesiant, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio un neu ragor o’u hamcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.

(5)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn cyfeirio ati.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I6A. 12 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

13Adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraillLL+C

(1)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus ac eithrio Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed ganddo at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Wrth baratoi adroddiad o dan Atodlen 1, neu o dan ddarpariaeth a ddiwygir gan yr Atodlen honno, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.

(3)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio un neu ragor o’i amcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I8A. 13 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Back to top

Options/Help