- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).
(1)Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.
(2)Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys—
(a)gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a
(b)cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.
(3)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan osod amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
(4)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhan o Gymru yn unig osod amcanion mewn perthynas â’r rhan honno neu unrhyw ran ohoni.
Mae’r nodau llesiant wedi eu nodi a’u disgrifio yn Nhabl 1—
Nod | Disgrifiad o’r nod |
---|---|
Cymru lewyrchus. | Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas. |
Cymru gydnerth. | Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). |
Cymru iachach. | Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. |
Cymru sy’n fwy cyfartal. | Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). |
Cymru o gymunedau cydlynus. | Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. |
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. | Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. | Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. |
(1)Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
(2)Er mwyn gweithredu yn y modd hwn, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried y pethau canlynol—
(a)pwysigrwydd cydbwyso anghenion y tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor, yn enwedig pan allai pethau a wneir i ddiwallu anghenion tymor byr gael effaith niweidiol yn yr hirdymor;
(b)yr angen i gymryd ymagwedd integredig, drwy ystyried—
(i)ym mha ffordd y gallai amcanion llesiant y corff effeithio ar bob un o’r nodau llesiant;
(ii)effaith amcanion llesiant y corff ar ei gilydd neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill, yn arbennig pan all camau a gymerir gan y corff gyfrannu at gyflawni un amcan ond y gall fod yn niweidiol i gyflawni un arall;
(c)pwysigrwydd cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—
(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu
(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;
(d)ym mha ffordd y gallai cydlafurio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff yn gweithio ar y cyd) gynorthwyo’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant, neu gynorthwyo corff arall i gyflawni ei amcanion;
(e)ym mha ffordd y gallai defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu gyfrannu at gyflawni amcanion llesiant y corff neu amcanion corff arall.
(1)At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)awdurdod lleol;
(c)Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(ii)Felindre;
(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(h)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
(2)Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.
(3)Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.
(1)Wrth gyhoeddi’r amcanion llesiant (gan gynnwys amcanion llesiant a adolygwyd o dan adran 8 neu 9) rhaid i gorff cyhoeddus hefyd gyhoeddi datganiad sy’n—
(a)egluro pam y mae’r corff yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
(b)egluro pam y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod wedi gosod amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan gynnwys sut y mae’r corff yn bwriadu cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—
(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu
(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;
(c)nodi’r camau y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny yn unol â’r egwyddor (gan gynnwys sut y mae’n bwriadu ei lywodraethu ei hun, sut y bydd yn parhau i adolygu’r camau a sut y mae’n bwriadu sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n flynyddol at ddiben cymryd camau o’r fath);
(d)pennu’r cyfnodau erbyn pryd y mae’r corff yn disgwyl y bydd yn cyflawni’r amcanion;
(e)darparu unrhyw wybodaeth arall y bydd y corff yn ei hystyried yn briodol ynghylch cymryd y camau a chyflawni’r amcanion.
(2)Caniateir cynnwys amcanion llesiant corff cyhoeddus sydd hefyd yn aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yng nghynllun llesiant lleol y bwrdd hwnnw (gweler Penodau 1 a 2 o Ran 4).
(1)Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod a’u cyhoeddi—
(a)heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y dyddiad y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl cychwyn yr adran hon, a
(b)heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredinol dilynol.
(2)Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod ar gyfer y cyfnod—
(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir at y diben hwnnw yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 7, a
(b)sy’n dod i ben gyda diwrnod yr etholiad cyffredinol arferol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.
(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio eu hamcanion llesiant.
(6)Rhaid i amcanion llesiant a ddiwygir o dan is-adran (4) neu (5) gael eu gosod ar gyfer gweddill y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (2).
(7)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio eu hamcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddynt eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(8)Wrth osod neu ddiwygio eu hamcanion llesiant, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.
(9)Yn is-adran (1), ystyr “etholiad cyffredinol” yw—
(a)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), neu
(b)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.
(1)Nid yw cyfeiriadau yn yr adran hon at gorff cyhoeddus yn cynnwys Gweinidogion Cymru.
(2)Rhaid i amcanion llesiant corff cyhoeddus gael eu gosod a’u cyhoeddi—
(a)heb fod yn hwyrach na dechrau’r flwyddyn ariannol sy’n dilyn cychwyn yr adran hon, a
(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’r corff yn eu hystyried yn briodol.
(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.
(4)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5)Caiff corff cyhoeddus, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.
(6)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (3) neu (4), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.
(7)Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a
(b)gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)Mewn perthynas â dangosydd cenedlaethol—
(a)rhaid iddo gael ei ddatgan ar ffurf gwerth y gellir eu fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;
(b)caniateir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol;
(c)caniateir ei fesur mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.
(4)Wrth osod carreg filltir rhaid i Weinidogion Cymru bennu —
(a)y meini prawf ar gyfer penderfynu a yw’r garreg filltir wedi ei chyflawni (drwy gyfeirio at y gwerth y mesurir y dangosydd yn ei erbyn neu’r nodwedd y’i mesurir yn ei herbyn), a
(b)erbyn pryd y mae’r garreg filltir i gael ei chyflawni.
(5)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (5), nad yw un neu ragor o’r dangosyddion cenedlaethol neu’r cerrig milltir yn briodol bellach, rhaid iddynt ei ddiwygio neu eu dwygio.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir o dan is-adran (6) neu (7), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid iddynt—
(a)cyhoeddi’r dangosyddion a’r cerrig milltir fel y’u diwygiwyd, a
(b)gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(9)Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir (gan gynnwys dangosyddion a cherrig milltir a ddiwygiwyd o dan is-adran (6) neu (7)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd;
(b)y cyrff cyhoeddus eraill;
(c)y personau eraill hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.
(10)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir dangosyddion cenedlaethol o dan is-adran (1), gyhoeddi adroddiad (“adroddiad llesiant blynyddol”) ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nodau llesiant drwy gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
(11)Rhaid i adroddiad llesiant blynyddol o dan is-adran (10) bennu’r cyfnodau o amser y mae’r mesuriad o bob dangosydd yn berthnasol iddynt.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ystod y cyfnod o 12 mis gan ddechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol, gyhoeddi adroddiad (“adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol”) sy’n cynnwys—
(a)rhagfynegiadau ynghylch y tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol, a
(b)unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(2)Wrth baratoi adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried unrhyw gam a gymerir gan y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac asesu effaith posibl y cam hwnnw ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a
(b)ystyried yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).
(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig” yw’r nodau drafft a gynigir yn adroddiad Gweithgor Agored y Cenhedloedd Unedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (cyfeirnod dogfen y Cenhedloedd Unedig A/68/970) y cyfeirir ato ym mhenderfyniad 68/309 y Cenhedloedd Unedig a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 10 Medi 2014.
(4)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y cynhelir etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai wedi ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt at gyflawni eu hamcanion llesiant, a
(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio un neu ragor o’u hamcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.
(5)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn cyfeirio ati.
(1)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus ac eithrio Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed ganddo at gyflawni ei amcanion llesiant.
(2)Wrth baratoi adroddiad o dan Atodlen 1, neu o dan ddarpariaeth a ddiwygir gan yr Atodlen honno, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.
(3)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(4)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio un neu ragor o’i amcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i ganllawiau o’r fath.
(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth—
(a)gosod amcanion llesiant, a
(b)cymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny.
(2)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ymchwiliad o’r fath o bob corff cyhoeddus o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (6).
(3)Cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (6), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad ar ganlyniadau’r ymchwiliadau a gynhaliwyd o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod hwnnw i’r Cynulliad Cenedlaethol.
(4)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod unrhyw adroddiad y mae’n paratoi o dan is-adran (3) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(5)Wrth gynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
(a)ystyried unrhyw gyngor neu gymorth a roddwyd i’r corff cyhoeddus, neu unrhyw adolygiad o’r corff ac argymhellion a roddwyd i’r corff, gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (gweler Rhan 3), a
(b)ymgynghori â’r Comisiynydd.
(6)Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a)yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd un flwyddyn cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a
(b)yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad nesaf o’r fath i’w gynnal.
Yn lle adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (datblygu cynaliadwy) rhodder—
(1)The Welsh Ministers must, in the exercise of their functions, make appropriate arrangements to promote sustainable development.
(2)After each financial year the Welsh Ministers must publish a report containing a statement of the arrangements made in pursuance of subsection (1) that had effect during that financial year and must lay a copy of the report before the Assembly.
(3)The arrangements referred to in subsection (1) may be made by the Welsh Ministers exercising their functions under section (2) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (duty of Welsh public bodies to set objectives and take steps to meet them in accordance with the sustainable development principle).”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: