RHAN 3COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Y Comisiynydd

I1I1317Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

1

Sefydlir swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel y “Comisiynydd”).

2

Rhaid i’r Comisiynydd fod yn unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru.

3

Cyn gwneud y penodiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Cynulliad Cenedlaethol drwy ei bwyllgor cyfrifol.

4

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Comisiynydd.

I2I1918Dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd

Dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd yw—

a

hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn arbennig er mwyn—

i

gweithredu fel gwarchodwr gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a

ii

annog cyrff cyhoeddus i roi rhagor o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wnânt, a

b

at y diben hwnnw i fonitro ac asesu cyflawniad yr amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus.

Swyddogaethau’r Comisiynydd

I3I2019Swyddogaethau’r Comisiynydd

1

Caiff y Comisiynydd, wrth gyflawni dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd—

a

darparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus (gan gynnwys darparu cyngor ar newid hinsawdd);

b

darparu cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;

c

darparu cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ynghylch paratoi ei gynllun llesiant lleol (gweler adran 42);

d

darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;

e

hybu’r arferion gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth iddynt gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

f

hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

g

annog cyrff cyhoeddus i gydweithio ac i weithio gyda phersonau eraill pe gallai hynny eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;

h

ceisio cyngor gan banel gynghori (gweler adran 26) mewn perthynas ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiynydd.

2

Caiff y Comisiynydd ymgymryd â gwaith ymchwil neu astudiaethau eraill mewn perthynas â’r canlynol—

a

i ba raddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy,

b

i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried yn y dangosyddion cenedlaethol,

c

yr egwyddor datblygu cynaliadwy ei hun (gan gynnwys sut y cymhwysir yr egwyddor i osod a chyflawni amcanion llesiant), a

d

unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru (neu unrhyw ran o Gymru).

3

Nid yw’r cyfeiriadau yn yr adran hon at ddarparu cymorth i gorff cyhoeddus yn cynnwys darparu cymorth ariannol.

I4I2120Adolygiadau gan y Comisiynydd

1

Caiff y Comisiynydd gynnal adolygiad ynghylch i ba raddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion drwy ystyried effaith hirdymor y pethau y mae’r corff yn eu gwneud o dan adran 3.

2

Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd adolygu—

a

y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;

b

i ba raddau y mae’r corff yn cyflawni ei amcanion llesiant;

c

a yw corff wedi gosod amcanion llesiant ac wedi cymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

3

Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i unrhyw ymchwiliad o’r corff a gynhelir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 15.

4

Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd wneud argymhellion i’r corff cyhoeddus ynghylch—

a

y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;

b

sut i osod amcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

5

Caiff y Comisiynydd gynnal un adolygiad o ddau gorff cyhoeddus neu ragor.

6

Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad ar adolygiad (gan gynnwys unrhyw argymhellion a wneir) ac anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.

7

Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth honno y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn berthnasol i’r adolygiad.

8

Ond nid yw’n ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i’r Comisiynydd os yw’r corff wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

I5I2221Argymhellion gan y Comisiynydd

1

Wrth ddarparu cyngor neu gymorth i Weinidogion Cymru, caiff y Comisiynydd hefyd wneud argymhellion i’r Gweinidogion ynghylch y nodau llesiant neu’r dangosyddion cenedlaethol.

2

Os yw’r Comisiynydd yn gwneud argymhellion o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r argymhellion hynny.

I622Dyletswydd i ddilyn argymhellion

I231

Rhaid i gorff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i ddilyn y ffordd o weithredu a nodir yn yr argymhellion a wneir iddo gan y Comisiynydd o dan adran 20(4) oni bai bod—

a

y corff cyhoeddus yn fodlon bod rheswm da iddo beidio â dilyn yr argymhelliad mewn categorïau penodol o achosion neu o gwbl, neu

b

yn penderfynu ar ddull gweithredu amgen mewn perthynas â phwnc yr argymhelliad.

I142

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill ynghylch sut i ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd.

I153

Wrth benderfynu sut i ymateb i argymhelliad o’r fath, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.

I234

Rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi ei ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd ac os nad yw’r corff yn dilyn argymhelliad, rhaid i’r ymateb gynnwys rheswm y corff dros wneud hynny ac egluro pa gamau gweithredu amgen, os o gwbl, y mae’n bwriadu eu cymryd.

I7I2423Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol

1

Rhaid i’r Comisiynydd baratoi a chyhoeddi, cyn diwedd pob cyfnod adrodd, adroddiad sy’n cynnwys asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn gosod amcanion llesiant, a’u cyflawni, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

2

Rhaid i adroddiad y Comisiynydd gynnwys, yn benodol, asesiad o sut y dylai cyrff cyhoeddus—

a

gwella’r modd o ddiogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a

b

cymryd mwy o ystyriaeth o effaith hirdymor yr hyn a wnânt.

3

Yn yr adran hon ac yn adran 24, y “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod—

a

sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y diwrnod y cyhoeddir adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11, a

b

sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad sydd flwyddyn union cyn y dyddiad y cynhelir y bleidlais yn yr etholiad cyffredinol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

4

Yn ogystal â’r asesiad a grybwyllir yn is-adran (1), rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gynnwys y canlynol—

a

crynodeb o’r dystiolaeth a gasglodd y Comisiynydd a’r gweithgareddau yr ymgymerodd y Comisiynydd â hwy yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 24);

b

crynodeb o’r adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 20);

c

crynodeb o unrhyw gamau eraill a gymerodd y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

5

Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys—

a

adroddiad ar unrhyw waith ymchwil neu astudiaethau eraill yr ymgymerwyd â hwy o dan adran 19(2);

b

unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.

6

Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o adroddiad a gyhoeddir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.

7

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adroddiad a anfonir atynt o dan is-adran (6) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

8

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod adrodd drwy reoliadau.

I8I2524Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd

1

Yn ystod cyfnod adrodd (ond cyn i’r adroddiad o dan adran 23 gael ei gyhoeddi) rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r canlynol—

a

y panel cynghori (gweler adran 26);

b

pob corff cyhoeddus;

c

cynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol yng Nghymru;

d

unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;

e

cynrychiolwyr personau sy’n preswylio ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru;

f

cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;

g

undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yng Nghymru;

h

unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol er mwyn sicrhau bod buddiannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu cynrychioli'n llawn.

2

Wrth baratoi adroddiad o dan adran 23 rhaid i’r Comisiynydd (yn ogystal ag ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan is-adran (1)) ystyried y canlynol—

a

pob adroddiad llesiant blynyddol o dan adran 10(10) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod adrodd;

b

yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol a gyhoeddir o dan adran 11 ar y diwrnod cyn i’r cyfnod adrodd ddechrau;

c

adroddiadau perthnasol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cydweithio

I9I2625Cydweithio

1

Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Comisiynydd yn bwriadu cynnal adolygiad o gorff o dan adran 20 a’i bod yn ymddangos i’r Comisiynydd bod yr adolygiad hwnnw yn ymwneud â mater sydd yr un fath â phwnc y canlynol, neu’n sylweddol debyg i’r canlynol—

a

adolygiad gan Gomisiynydd Plant Cymru o dan adran 72B o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14);

b

adolygiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru o dan adran 3 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p.30);

c

ymholiad gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan adran 7 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1).

F1d

ymchwiliad o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at y Comisiynydd arall neu’r Comisiynwyr yn cynnwys yr Ombwdsmon).

2

Caiff y Comisiynydd—

a

hysbysu’r Comisiynydd arall am y bwriad i gynnal yr adolygiad, a

b

ymgynghori â’r Comisiynydd arall ynghylch yr adolygiad.

3

Caiff y Comisiynwyr—

a

cydweithredu;

b

paratoi a chyhoeddi dogfen ar y cyd sydd i’w thrin fel y ddau beth hyn—

i

yr adroddiad ar yr adolygiad sy’n ofynnol gan adran 20(6), a

ii

adroddiad ar yr adolygiad neu’r ymchwiliad y cyfeirir ato yn is-adran (1) o’r adran hon.

Panel cynghori’r Comisiynydd

I10I1626Panel cynghori

1

Sefydlir panel o gynghorwyr (y “panel cynghori”) at y diben o ddarparu cyngor i’r Comisiynydd ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

2

Dyma aelodau’r panel cynghori—

a

Comisiynydd Plant Cymru;

b

Comisiynydd y Gymraeg;

c

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

d

yr aelod staff o fewn Llywodraeth Cymru a ddynodwyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru gan Weinidogion Cymru;

e

cadeirydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu aelod anweithredol arall o’r corff hwnnw a ddetholir gan y cadeirydd;

f

swyddog o’r corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a elwir yn Wales TUC Cymru a enwebir gan y corff hwnnw;

g

cadeirydd, cyfarwyddwr neu swyddog tebyg y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi mewn corff sy’n cynrychioli personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;

h

y cyfryw berson arall ag y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi.

I11I1727Aelodau penodedig

1

Cyn penodi aelod o dan adran 26(2)(h) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd.

2

Mae aelod penodedig yn dal y swydd am gyfnod o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru.

3

Caniateir ailbenodi aelod penodedig unwaith, am gyfnod pellach o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd (pa un a yw’r cyfnod hwn yn gyfnod olynol wedi penodiad cyntaf yr aelod ai peidio).

4

Caiff Gweinidogion Cymru roi taliad cydnabyddiaeth i aelodau penodedig.

5

Caiff aelod penodedig ymddiswyddo o’r panel drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o fwriad yr aelod i wneud hynny.

6

Caiff Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r Comisiynydd ddiswyddo aelod penodedig os yw’n fodlon bod yr aelod—

a

yn anaddas i barhau i fod yn aelod o’r panel, neu

b

yn analluog neu’n anfodlon i weithredu fel aelod.

I12I1828Talu treuliau aelodau’r panel

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau’r panel cynghori.