(1)Sefydlir panel o gynghorwyr (y “panel cynghori”) at y diben o ddarparu cyngor i’r Comisiynydd ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
(2)Dyma aelodau’r panel cynghori—
(a)Comisiynydd Plant Cymru;
(b)Comisiynydd y Gymraeg;
(c)Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
(d)yr aelod staff o fewn Llywodraeth Cymru a ddynodwyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru gan Weinidogion Cymru;
(e)cadeirydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu aelod anweithredol arall o’r corff hwnnw a ddetholir gan y cadeirydd;
(f)swyddog o’r corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a elwir yn Wales TUC Cymru a enwebir gan y corff hwnnw;
(g)cadeirydd, cyfarwyddwr neu swyddog tebyg y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi mewn corff sy’n cynrychioli personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;
(h)y cyfryw berson arall ag y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 26 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(h)
(1)Cyn penodi aelod o dan adran 26(2)(h) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd.
(2)Mae aelod penodedig yn dal y swydd am gyfnod o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru.
(3)Caniateir ailbenodi aelod penodedig unwaith, am gyfnod pellach o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd (pa un a yw’r cyfnod hwn yn gyfnod olynol wedi penodiad cyntaf yr aelod ai peidio).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi taliad cydnabyddiaeth i aelodau penodedig.
(5)Caiff aelod penodedig ymddiswyddo o’r panel drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o fwriad yr aelod i wneud hynny.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r Comisiynydd ddiswyddo aelod penodedig os yw’n fodlon bod yr aelod—
(a)yn anaddas i barhau i fod yn aelod o’r panel, neu
(b)yn analluog neu’n anfodlon i weithredu fel aelod.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I4A. 27 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(i)
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau’r panel cynghori.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I6A. 28 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(j)