RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 3AMRYWIOL

47Uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus

1

Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i uno os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

3

Ond dim ond os y bodlonir y canlynol y caiff byrddau uno—

a

mae’r un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd sy’n ceisio uno, neu sy’n cael eu cyfarwyddo i uno, a

b

nid oes Bwrdd Iechyd Lleol arall yn aelod o unrhyw un o’r byrddau hynny.

4

Os yw dau neu ragor o fyrddau yn uno—

a

rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon (ac eithrio yn yr adran hon) at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, a

b

rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal awdurdod lleol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r bwrdd unedig.

48Cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus

1

Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i gydlafurio os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i gydlafurio ym mha ffodd bynnag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

3

At ddibenion yr adran hon, mae bwrdd yn cydlafurio os yw’n—

a

cydweithredu â bwrdd arall,

b

hwyluso gweithgareddau bwrdd arall,

c

cydgysylltu ei weithgareddau â bwrdd arall,

d

arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran, neu

e

darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.

49Cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurio

1

Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 47(2) neu 48(2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y maent yn bwriadu eu cyfarwyddo.

2

Wrth roi cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros wneud hynny.

50Dangosyddion perfformiad a safonau

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu dangosyddion a safonau ar gyfer mesur perfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran arfer ei swyddogaethau.

2

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

a

aelodau y byrddau neu bersonau sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe baent yn cynrychioli’r aelodau hynny;

b

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

51Canllawiau

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

2

Wrth arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.