(cyflwynwyd gan adran 13(1))
ATODLEN 1LL+CADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYRFF CYHOEDDUS ERAILL
Cyrff cyhoeddus: cyffredinolLL+C
1(1)Rhaid i gorff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu gorff a grybwyllir yn is-baragraff (3)) gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad am y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.
(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
[F1(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.]
(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG (am hynny, gweler paragraff 2);
(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru (am hynny, gweler paragraff 3).
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 1 para. 1(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 114, 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIGLL+C
2(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn gyfrifyddu, adroddiad o’r cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.
(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(3)Yn y paragraff hwn, mae i “blwyddyn gyfrifyddu” mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG yr ystyr a roddir gan y gorchymyn—
(a)a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, sy’n sefydlu’r Bwrdd, neu
(b)a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Corff Adnoddau Naturiol CymruLL+C
3(1)Yn yr Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Dynol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy.230)), ym mharagraff 22(1)(a), ar ôl “honno” mewnosoder “gan gynnwys adroddiad am y cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr awdurdod tuag at gyflawni ei amcanion llesiant a gyhoeddir o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)”.
(2)Nid yw’r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) i ddiwygio neu ddirymu darpariaeth a wnaed gan y diwygiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3