ATODLEN 1ADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYRFF CYHOEDDUS ERAILL

I1I23Corff Adnoddau Naturiol Cymru

1

Yn yr Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Dynol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy.230)), ym mharagraff 22(1)(a), ar ôl “honno” mewnosoder “gan gynnwys adroddiad am y cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr awdurdod tuag at gyflawni ei amcanion llesiant a gyhoeddir o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)”.

2

Nid yw’r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) i ddiwygio neu ddirymu darpariaeth a wnaed gan y diwygiad hwnnw.