Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

(cyflwynwyd gan adran 17(4))

ATODLEN 2COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Explanatory NotesShow EN

Statws

1(1)Mae’r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw’r Comisiynydd i gael ei ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn gorff sy’n mwynhau unrhyw statws, eithriad neu fraint perthynol i’r Goron.

(3)Nid yw eiddo’r Comisiynydd i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

Dilysrwydd gweithredoedd

2(1)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred unigolyn fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)yr unigolyn hwnnw;

(b)unrhyw aelod o’r panel cynghori.

(2)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy’n arfer swyddogaethau ar ran y Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)y person hwnnw;

(b)y Comisiynydd;

(c)unrhyw aelod o’r panel cynghori.

Cyfnod y penodiad

3Mae unigolyn a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd am gyfnod o 7 mlynedd.

Telerau penodi

4Mae’r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Atodlen hon, a

(b)unrhyw delerau penodi ychwanegol y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o dro i dro.

Taliadau cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i’r Comisiynydd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i’r Comisiynydd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd, a

(b)symiau ar gyfer darparu neu tuag at ddarparu pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd.

Anghymwyso

6(1)Ni chaiff unigolyn gael ei benodi’n Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(2)Bydd Comisiynydd yn peidio â bod yn Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(3)Mae unigolyn yn anghymwys i fod yn Gomisiynydd os yw’r unigolyn yn—

(a)Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)aelod o’r panel cynghori;

(c)deiliad unrhyw swydd arall y caiff person ei benodi iddi, neu ei argymell neu ei enwebu ar gyfer ei benodi iddi, gan neu ar ran—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(d)Aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi;

(e)Aelod o Senedd yr Alban;

(f)Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;

(g)Aelod o Senedd Ewrop;

(h)aelod o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;

(i)aelod o staff y Comisiynydd.

Diwedd penodiad (ac eithrio drwy anghymwyso)

7(1)Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o’i fwriad i wneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r Comisiynydd os ydynt wedi eu bodloni—

(a)ei fod yn anaddas i barhau fel Comisiynydd, neu

(b)ei fod yn analluog neu’n amharod i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

Pwerau

8(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Comisiynydd, gan gynnwys—

(a)codi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;

(b)talu i drydydd partïon am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;

(c)derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall.

(2)Ni chaiff y Comisiynydd—

(a)darparu cymorth ariannol i unrhyw berson;

(b)caffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,

heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(3)Mae pŵer y Comisiynydd i godi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaeth arall yn gyfyngedig i godi’r symiau hynny y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol i adennill y costau, gwirioneddol neu amcangyfrifedig, o ddarparu’r cyngor neu’r gwasanaeth hwnnw.

Staff

9(1)Caiff y Comisiynydd benodi unrhyw staff y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol o ran arfer swyddogaethau’r Comisiynydd a rhaid iddo benodi aelod o staff i fod yn Ddirprwy Gomisiynydd (gweler paragraff 11).

(2)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau staff y Comisiynydd.

(3)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau staff y Comisiynydd.

(4)Caiff y Comisiynydd dalu—

(a)pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd, a

(b)symiau ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o ran—

(a)nifer yr aelodau o staff y caniateir eu penodi;

(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff;

(c)unrhyw daliadau y bwriedir eu gwneud o dan is-baragraffau (2) i (4).

Dirprwyo

10Caiff swyddogaeth y Comisiynydd gael ei chyflawni ar ran y Comisiynydd gan unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw aelod o staff y Comisiynydd, ond dim ond i’r graddau y caniateir hynny gan y Comisiynydd.

Dirprwy Gomisiynydd

11Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw’r Comisiynydd yn gallu arfer swyddogaethau Comisiynydd am unrhyw reswm.

Y weithdrefn gwynion

12(1)Rhaid i’r comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion am arferiad swyddogaethau’r Comisiynydd (“y weithdrefn gwynion”).

(2)Rhaid i’r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)sut i wneud cwyn;

(b)y person y dylid gwneud cwyn iddo;

(c)y cyfnod ar gyfer dechrau ystyried cwyn a dirwyn cwyn i ben;

(d)y camau gweithredu y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.

(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio’r weithdrefn gwynion, ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i gynnwys darpariaethau yn unol ag is-baragraff (2).

(4)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o’r weithdrefn gwynion ar gael i’w harchwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o’r weithdrefn gwynion ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r weithdrefn gwynion mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol fod ganddynt ddiddordeb yn y weithdrefn.

Cofrestr buddiannau

13(1)Rhaid i’r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr sy’n cynnwys holl fuddiannau cofrestradwy’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd.

(2)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 14 a 15—

(a)ystyr “buddiannau cofrestradwy” yw unrhyw fuddiannau y pennir eu bod yn fuddiannau cofrestradwy gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (a gall hyn gynnwys buddiannau personau y mae gan y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd gysylltiad â hwy, boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu’n unrhyw fath arall o gysylltiad);

(b)ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys anrhegion, lletygarwch, rhoddion a dderbynnir, buddiannau ariannol eraill, a phob gweithgaredd a gorchwyl).

(3)Rhaid i’r Comisiynydd ddiweddaru ei gofrestr buddiannau yn barhaus.

14(1)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o’r gofrestr buddiannau ar gael i’w archwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o’r gofrestr ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r gofrestr buddiannau mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt ddiddordeb yn y gofrestr.

Gwrthdrawiadau buddiannau

15(1)Rhaid i’r Comisiynydd beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.

(2)Os bydd hyn yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo’r swyddogaeth honno (i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi’r gwaith hwnnw o’i harfer i gael ei wneud) i aelod o staff y Comisiynydd.

(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r Dirprwy Gomisiynydd sy’n arfer un o swyddogaethau’r Comisiynydd o dan baragraff 11 fel y mae’n gymwys i’r Comisiynydd.

Taliadau gan Weinidogion Cymru

16Caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy’n briodol yn eu tyb hwy, mewn cysylltiad â gwariant yr eir iddo wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.

Adroddiadau blynyddol

17(1)Rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).

(2)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gwneir y penodiad cyntaf i swydd y Comisiynydd o dan adran 17 ac sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth canlynol.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol honno;

(b)dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny o ran galluogi gwireddu dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd (gweler adran 18);

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol honno;

(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol;

(e)crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff 12.

(4)Caiff adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn briodol.

(5)Wrth baratoi adroddiad blynyddol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â—

(a)y panel cynghori, a

(b)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.

(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(7)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o bob adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Swyddog cyfrifyddu

18(1)Y Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid y Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Trysorlys.

(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd;

(c)cyfrifoldeb am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau’r Comisiynydd.

(4)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ddyledus i’r canlynol—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)Tŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin,

(b)cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)trosglwyddo’r dystiolaeth a gymerwyd i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn yn yr un modd ag y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

Amcangyfrifon

19(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, rhaid i’r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â’r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gydag unrhyw addasiadau sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Cyfrifon

20(1)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;

(b)llunio cyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r cyfarwyddydau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfarwyddydau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i gael eu cyflwyno;

(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i gael eu llunio yn unol â hwy;

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd y maent wedi ei roi o dan y paragraff hwn.

Archwilio

21(1)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddynariannol ganlynol.

(2)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â’i adroddiad arnynt.

(3)Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol ardystio’r cyfrifon cyn bodloni ei hun yr aethpwyd i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithiol ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu.

Archwilio’r defnydd o adnoddau

22(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.

(2)Ond nid oes gan yr Archwilydd Cyffredinol yr hawl i gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Comisiynydd.

(3)Cyn cynnal archwiliad o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)ymgynghori â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)ystyried barn y Pwyllgor o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol—

(a)cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gyflawnir dan y paragraff hwn, a

(b)gosod copi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Y sêl a dilysrwydd dogfennau

23(1)Caniateir i’r Comisiynydd gael sêl.

(2)Mae dogfen—

(a)yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu

(b)yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,

i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources