Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 17

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2016.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Paragraff 17. Help about Changes to Legislation

Adroddiadau blynyddolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

17(1)Rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).

(2)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gwneir y penodiad cyntaf i swydd y Comisiynydd o dan adran 17 ac sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth canlynol.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol honno;

(b)dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny o ran galluogi gwireddu dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd (gweler adran 18);

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol honno;

(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol;

(e)crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff 12.

(4)Caiff adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn briodol.

(5)Wrth baratoi adroddiad blynyddol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â—

(a)y panel cynghori, a

(b)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.

(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(7)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o bob adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Back to top

Options/Help