Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 18

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/10/2015.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Paragraff 18. Help about Changes to Legislation

Swyddog cyfrifydduLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

18(1)Y Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid y Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Trysorlys.

(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd;

(c)cyfrifoldeb am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau’r Comisiynydd.

(4)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ddyledus i’r canlynol—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)Tŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin,

(b)cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)trosglwyddo’r dystiolaeth a gymerwyd i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn yn yr un modd ag y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Back to top

Options/Help