ATODLEN 2COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

9Staff

1

Caiff y Comisiynydd benodi unrhyw staff y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol o ran arfer swyddogaethau’r Comisiynydd a rhaid iddo benodi aelod o staff i fod yn Ddirprwy Gomisiynydd (gweler paragraff 11).

2

Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau staff y Comisiynydd.

3

Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau staff y Comisiynydd.

4

Caiff y Comisiynydd dalu—

a

pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd, a

b

symiau ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd.

5

Rhaid i’r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o ran—

a

nifer yr aelodau o staff y caniateir eu penodi;

b

telerau ac amodau gwasanaeth y staff;

c

unrhyw daliadau y bwriedir eu gwneud o dan is-baragraffau (2) i (4).