ATODLEN 3BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH
I10I41Cworwm
Cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau.
I1I92Cyfarfod cyntaf
1
Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd.
2
Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod cyntaf bwrdd.
I8I133Cyfarfodydd gorfodol
1
Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredin a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).
2
Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod a gynhelir o dan is-baragraff (1).
I2I74Cylch gorchwyl
1
Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.
2
Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—
a
y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;
b
amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;
c
y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;
d
cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;
e
cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));
f
cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);
g
y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;
h
unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.
3
O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
a
rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a
b
caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.
4
Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.
I5I115Cymorth gweinyddol
Rhaid i’r awdurdod lleol beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.
I3I126Is-grwpiau a dirprwyo
1
O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
a
rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a
b
caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.
2
Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.
3
Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—
a
gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;
b
gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;
c
paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;
d
ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;
e
paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;
f
ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;
g
adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;
h
ymgynghori o dan adran 44F3neu 47 ;
i
cytuno i’r bwrdd—
i
uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1),
F2ia
os yw’r bwrdd yn fwrdd unedig o dan adran 47, daduno neu ddaduno yn rhannol o dan adran 47(7), neu
ii
cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).
I14I67Cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd
1
Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—
a
yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu
b
unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).
Aelod | Cynrychiolydd |
---|---|
Awdurdod lleol | Maer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a F1phrif weithredwr yr awdurdod a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 . |
Bwrdd Iechyd Lleol | Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—
|
Awdurdod tân ac achub yng Nghymru | Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—
|
Corff Adnoddau Naturiol Cymru | Y prif weithredwr |
2
Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
3
Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.
4
Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).
5
Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.