Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Valid from 01/04/2016

11Adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ystod y cyfnod o 12 mis gan ddechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol, gyhoeddi adroddiad (“adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol”) sy’n cynnwys—

(a)rhagfynegiadau ynghylch y tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol, a

(b)unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(2)Wrth baratoi adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried unrhyw gam a gymerir gan y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac asesu effaith posibl y cam hwnnw ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a

(b)ystyried yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).

(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig” yw’r nodau drafft a gynigir yn adroddiad Gweithgor Agored y Cenhedloedd Unedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (cyfeirnod dogfen y Cenhedloedd Unedig A/68/970) y cyfeirir ato ym mhenderfyniad 68/309 y Cenhedloedd Unedig a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 10 Medi 2014.

(4)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y cynhelir etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai wedi ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)