(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ystod y cyfnod o 12 mis gan ddechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol, gyhoeddi adroddiad (“adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol”) sy’n cynnwys—
(a)rhagfynegiadau ynghylch y tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol, a
(b)unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(2)Wrth baratoi adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried unrhyw gam a gymerir gan y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac asesu effaith posibl y cam hwnnw ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a
(b)ystyried yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).
(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig” yw’r nodau [F1a bennir yn Trawsnewid ein byd: Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan benderfyniad A/Res/70/1 ar 25 Medi 2015]
(4)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y cynhelir etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai wedi ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 11(3) wedi eu hamnewid (21.5.2016) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), a. 88(2)(a), Atod. 2 para. 10(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 11 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3