Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 13

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 13. Help about Changes to Legislation

13Adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus ac eithrio Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed ganddo at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Wrth baratoi adroddiad o dan Atodlen 1, neu o dan ddarpariaeth a ddiwygir gan yr Atodlen honno, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.

(3)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio un neu ragor o’i amcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 13 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Back to top

Options/Help