RHAN 2GWELLA LLESIANT

Swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru

15Yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol

(1)

Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth—

(a)

gosod amcanion llesiant, a

(b)

cymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny.

(2)

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ymchwiliad o’r fath o bob corff cyhoeddus o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (6).

(3)

Cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (6), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad ar ganlyniadau’r ymchwiliadau a gynhaliwyd o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod hwnnw i’r Cynulliad Cenedlaethol.

(4)

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod unrhyw adroddiad y mae’n paratoi o dan is-adran (3) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)

Wrth gynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)

ystyried unrhyw gyngor neu gymorth a roddwyd i’r corff cyhoeddus, neu unrhyw adolygiad o’r corff ac argymhellion a roddwyd i’r corff, gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (gweler Rhan 3), a

(b)

ymgynghori â’r Comisiynydd.

(6)

Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—

(a)

yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd un flwyddyn cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a

(b)

yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad nesaf o’r fath i’w gynnal.