RHAN 3COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU
Swyddogaethau’r Comisiynydd
19Swyddogaethau’r Comisiynydd
(1)
Caiff y Comisiynydd, wrth gyflawni dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd—
(a)
darparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus (gan gynnwys darparu cyngor ar newid hinsawdd);
(b)
darparu cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
(c)
darparu cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ynghylch paratoi ei gynllun llesiant lleol (gweler adran 42);
(d)
darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
(e)
hybu’r arferion gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth iddynt gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(f)
hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(g)
annog cyrff cyhoeddus i gydweithio ac i weithio gyda phersonau eraill pe gallai hynny eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
(h)
ceisio cyngor gan banel gynghori (gweler adran 26) mewn perthynas ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiynydd.
(2)
Caiff y Comisiynydd ymgymryd â gwaith ymchwil neu astudiaethau eraill mewn perthynas â’r canlynol—
(a)
i ba raddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy,
(b)
i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried yn y dangosyddion cenedlaethol,
(c)
yr egwyddor datblygu cynaliadwy ei hun (gan gynnwys sut y cymhwysir yr egwyddor i osod a chyflawni amcanion llesiant), a
(d)
unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru (neu unrhyw ran o Gymru).
(3)
Nid yw’r cyfeiriadau yn yr adran hon at ddarparu cymorth i gorff cyhoeddus yn cynnwys darparu cymorth ariannol.