Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

23Adroddiad Cenedlaethau’r DyfodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Comisiynydd baratoi a chyhoeddi, cyn diwedd pob cyfnod adrodd, adroddiad sy’n cynnwys asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn gosod amcanion llesiant, a’u cyflawni, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(2)Rhaid i adroddiad y Comisiynydd gynnwys, yn benodol, asesiad o sut y dylai cyrff cyhoeddus—

(a)gwella’r modd o ddiogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a

(b)cymryd mwy o ystyriaeth o effaith hirdymor yr hyn a wnânt.

(3)Yn yr adran hon ac yn adran 24, y “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y diwrnod y cyhoeddir adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11, a

(b)sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad sydd flwyddyn union cyn y dyddiad y cynhelir y bleidlais yn yr etholiad cyffredinol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)Yn ogystal â’r asesiad a grybwyllir yn is-adran (1), rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gynnwys y canlynol—

(a)crynodeb o’r dystiolaeth a gasglodd y Comisiynydd a’r gweithgareddau yr ymgymerodd y Comisiynydd â hwy yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 24);

(b)crynodeb o’r adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 20);

(c)crynodeb o unrhyw gamau eraill a gymerodd y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

(5)Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys—

(a)adroddiad ar unrhyw waith ymchwil neu astudiaethau eraill yr ymgymerwyd â hwy o dan adran 19(2);

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.

(6)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o adroddiad a gyhoeddir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adroddiad a anfonir atynt o dan is-adran (6) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod adrodd drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)