RHAN 3COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU
Swyddogaethau’r Comisiynydd
I124Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd
1
Yn ystod cyfnod adrodd (ond cyn i’r adroddiad o dan adran 23 gael ei gyhoeddi) rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r canlynol—
a
y panel cynghori (gweler adran 26);
b
pob corff cyhoeddus;
c
cynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol yng Nghymru;
d
unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
e
cynrychiolwyr personau sy’n preswylio ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru;
f
cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;
g
undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yng Nghymru;
h
unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol er mwyn sicrhau bod buddiannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu cynrychioli'n llawn.
2
Wrth baratoi adroddiad o dan adran 23 rhaid i’r Comisiynydd (yn ogystal ag ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan is-adran (1)) ystyried y canlynol—
a
pob adroddiad llesiant blynyddol o dan adran 10(10) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod adrodd;
b
yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol a gyhoeddir o dan adran 11 ar y diwrnod cyn i’r cyfnod adrodd ddechrau;
c
adroddiadau perthnasol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.