Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 24

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 24. Help about Changes to Legislation

24Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adroddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn ystod cyfnod adrodd (ond cyn i’r adroddiad o dan adran 23 gael ei gyhoeddi) rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r canlynol—

(a)y panel cynghori (gweler adran 26);

(b)pob corff cyhoeddus;

(c)cynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol yng Nghymru;

(d)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;

(e)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru;

(f)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;

(g)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yng Nghymru;

(h)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol er mwyn sicrhau bod buddiannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu cynrychioli'n llawn.

(2)Wrth baratoi adroddiad o dan adran 23 rhaid i’r Comisiynydd (yn ogystal ag ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan is-adran (1)) ystyried y canlynol—

(a)pob adroddiad llesiant blynyddol o dan adran 10(10) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod adrodd;

(b)yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol a gyhoeddir o dan adran 11 ar y diwrnod cyn i’r cyfnod adrodd ddechrau;

(c)adroddiadau perthnasol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 24 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2

Back to top

Options/Help