25CydweithioLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Comisiynydd yn bwriadu cynnal adolygiad o gorff o dan adran 20 a’i bod yn ymddangos i’r Comisiynydd bod yr adolygiad hwnnw yn ymwneud â mater sydd yr un fath â phwnc y canlynol, neu’n sylweddol debyg i’r canlynol—
(a)adolygiad gan Gomisiynydd Plant Cymru o dan adran 72B o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14);
(b)adolygiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru o dan adran 3 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p.30);
(c)ymholiad gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan adran 7 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1).
(2)Caiff y Comisiynydd—
(a)hysbysu’r Comisiynydd arall am y bwriad i gynnal yr adolygiad, a
(b)ymgynghori â’r Comisiynydd arall ynghylch yr adolygiad.
(3)Caiff y Comisiynwyr—
(a)cydweithredu;
(b)paratoi a chyhoeddi dogfen ar y cyd sydd i’w thrin fel y ddau beth hyn—
(i)yr adroddiad ar yr adolygiad sy’n ofynnol gan adran 20(6), a
(ii)adroddiad ar yr adolygiad neu’r ymchwiliad y cyfeirir ato yn is-adran (1) o’r adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 25 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2