Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 26

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/10/2015.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 26. Help about Changes to Legislation

26Panel cynghoriLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Sefydlir panel o gynghorwyr (y “panel cynghori”) at y diben o ddarparu cyngor i’r Comisiynydd ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

(2)Dyma aelodau’r panel cynghori—

(a)Comisiynydd Plant Cymru;

(b)Comisiynydd y Gymraeg;

(c)Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

(d)yr aelod staff o fewn Llywodraeth Cymru a ddynodwyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru gan Weinidogion Cymru;

(e)cadeirydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu aelod anweithredol arall o’r corff hwnnw a ddetholir gan y cadeirydd;

(f)swyddog o’r corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a elwir yn Wales TUC Cymru a enwebir gan y corff hwnnw;

(g)cadeirydd, cyfarwyddwr neu swyddog tebyg y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi mewn corff sy’n cynrychioli personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;

(h)y cyfryw berson arall ag y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 26 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(h)

Back to top

Options/Help