Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

27Aelodau penodedigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyn penodi aelod o dan adran 26(2)(h) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd.

(2)Mae aelod penodedig yn dal y swydd am gyfnod o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caniateir ailbenodi aelod penodedig unwaith, am gyfnod pellach o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd (pa un a yw’r cyfnod hwn yn gyfnod olynol wedi penodiad cyntaf yr aelod ai peidio).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi taliad cydnabyddiaeth i aelodau penodedig.

(5)Caiff aelod penodedig ymddiswyddo o’r panel drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o fwriad yr aelod i wneud hynny.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r Comisiynydd ddiswyddo aelod penodedig os yw’n fodlon bod yr aelod—

(a)yn anaddas i barhau i fod yn aelod o’r panel, neu

(b)yn analluog neu’n anfodlon i weithredu fel aelod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 27 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(i)