Valid from 01/04/2016
29Byrddau gwasanaethau cyhoeddusLL+C
(1)Sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
(2)Dyma aelodau pob bwrdd—
(a)yr awdurdod lleol;
(b)y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(c)yr awdurdod tân ac achub yng Nghymru ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(d)Corff Adnoddau Naturiol Cymru.
(3)Yn y Rhan hon, mae unrhyw gyfeiriad at “bwrdd gwasanaethau cyhoeddus” (neu “fwrdd”) yn gyfeiriad at aelodau’r bwrdd hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth a fynegir fel un o swyddogaethau bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn swyddogaeth i bob aelod o’r bwrdd na ellir ond ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)