RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 1SEFYDLU, CYFRANOGIAD A CHRAFFU
I1I235Pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol
1
Rhaid i drefniadau gweithredol awdurdod lleol o dan Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) sicrhau bod gan ei bwyllgor trosolwg a chraffu y pŵer—
a
i adolygu’r penderfyniadau, neu i graffu ar y penderfyniadau, a wneir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr ardal awdurdod lleol wrth arfer ei swyddogaethau, neu i wneud hynny mewn perthynas â’r camau eraill a gymerir ganddo wrth arfer ei swyddogaethau;
b
i adolygu trefniadau llywodraethu y bwrdd neu i graffu arnynt;
c
i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i’r bwrdd mewn perthynas â swyddogaethau neu drefniadau llywodraethu y bwrdd;
d
i ystyried y materion hynny mewn perthynas â’r bwrdd y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfeirio ato, ac i adrodd i Weinidogion Cymru yn unol â hynny;
e
i ymgymryd â’r swyddogaethau eraill hynny mewn perthynas â’r bwrdd a osodir arno gan y Ddeddf hon.
2
Rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu anfon copi o unrhyw adroddiad neu argymhelliad a wneir o dan is-adran (1)(c) at—
a
Gweinidogion Cymru;
b
y Comisiynydd;
c
Archwilydd Cyffredinol Cymru.
3
Caiff pwyllgor trosolwg a chraffu, at ddiben arfer pŵer a grybwyllir yn is-adran (1), ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o’r personau a gaiff fynychu un o gyfarfodydd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler paragraff 7 o Atodlen 3), neu unrhyw un a ddynodir gan berson o’r fath, fynychu un o gyfarfodydd y pwyllgor a darparu eglurhad iddo ar y materion hynny y caiff y pwyllgor eu pennu.
4
Pan fo gan awdurdod lleol fwy nag un pwyllgor trosolwg a chraffu, mae’r cyfeiriadau yn y Rhan hon at ei bwyllgor trosolwg a chraffu yn gyfeiriad at y pwyllgor a ddynodir gan yr awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon.