Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 36

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 36. Help about Changes to Legislation

36Dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddusLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Rhaid i gyfraniad bwrdd gwasanaethau cyhoeddus at gyrraedd y nodau gynnwys—

(a)asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal (gweler adrannau 37 a 38),

(b)gosod amcanion (“amcanion lleol”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf o fewn ei ardal at gyrraedd y nodau hynny, ac

(c)bod aelodau’r bwrdd yn cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer eu swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny (ond gweler adran 39(2)(b)).

(3)Rhaid i unrhyw beth y mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud o dan yr adran hon gael ei wneud yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(4)Mae adrannau 39 i 45 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau llesiant lleol gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus nodi mewn cynlluniau o’r fath eu hamcanion lleol a’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 36 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Back to top

Options/Help