Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 37

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 20/03/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 37. Help about Changes to Legislation

37Asesiadau llesiant lleolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal.

(2)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi’r asesiad ymhen dim mwy na blwyddyn cyn y dyddiad y mae cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi o dan is-adran (6) neu (7) o adran 39.

(3)Rhaid i asesiad—

(a)pennu’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal y bwrdd;

(b)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant ym mhob ardal gymunedol ac yn yr ardal yn ei chyfanrwydd;

(c)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant y bobl yn yr ardal;

(d)cynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach y mae’r bwrdd yn ei gynnal drwy gyfeirio at feini prawf a osodir ac a gymhwysir ganddo at ddiben asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal neu mewn unrhyw gymuned o fewn yr ardal;

(e)cynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol ar gyfer y dyfodol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal;

(f)cynnwys unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol gysylltiedig arall y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol.

(4)Rhaid i ddadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)—

(a)cyfeirio at unrhyw ddangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd o dan adran 10;

(b)cyfeirio at adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11 i’r graddau y mae’n berthnasol i asesu llesiant yn yr ardal.

(5)Mae’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal bwrdd i’w pennu—

(a)yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu

(b)os nad oes rheoliadau o’r fath wedi eu gwneud, gan y bwrdd.

(6)Caiff y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)(c) gynnwys dadansoddiadau o gategorïau penodol o bersonau y penderfyna’r bwrdd arnynt drwy gyfeirio at—

(a)y ffaith bod personau’n hyglwyf neu o dan anfantais fel arall am yr un rhesymau neu am resymau tebyg;

(b)bod y personau’n meddu ar nodwedd warchodedig gyffredin o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15);

(c)bod y personau’n blant (personau o dan 18 oed);

(d)bod y personau’n bobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) fel y’u disgrifir yn adran 104 o’r Ddeddf honno;

(e)a yw’r personau—

(i)yn bersonau y gallai fod arnynt angen gofal a chymorth (fel y’u disgrifir yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)); neu

(ii)yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal a chymorth i bersonau y gallai fod ei angen arnynt;

(f)unrhyw ffactor cyffredin arall y mae’r Bwrdd yn ei ystyried yn briodol wrth ddisgrifio categori o bersonau.

(7)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i asesiad at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 37 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Back to top

Options/Help