RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL
Asesiadau llesiant lleol
I1I237Asesiadau llesiant lleol
1
Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal.
2
Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi’r asesiad ymhen dim mwy na blwyddyn cyn y dyddiad y mae cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi o dan is-adran (6) neu (7) o adran 39.
3
Rhaid i asesiad—
a
pennu’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal y bwrdd;
b
cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant ym mhob ardal gymunedol ac yn yr ardal yn ei chyfanrwydd;
c
cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant y bobl yn yr ardal;
d
cynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach y mae’r bwrdd yn ei gynnal drwy gyfeirio at feini prawf a osodir ac a gymhwysir ganddo at ddiben asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal neu mewn unrhyw gymuned o fewn yr ardal;
e
cynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol ar gyfer y dyfodol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal;
f
cynnwys unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol gysylltiedig arall y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol.
4
Rhaid i ddadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)—
a
cyfeirio at unrhyw ddangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd o dan adran 10;
b
cyfeirio at adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11 i’r graddau y mae’n berthnasol i asesu llesiant yn yr ardal.
5
Mae’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal bwrdd i’w pennu—
a
yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu
b
os nad oes rheoliadau o’r fath wedi eu gwneud, gan y bwrdd.
6
Caiff y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)(c) gynnwys dadansoddiadau o gategorïau penodol o bersonau y penderfyna’r bwrdd arnynt drwy gyfeirio at—
a
y ffaith bod personau’n hyglwyf neu o dan anfantais fel arall am yr un rhesymau neu am resymau tebyg;
b
bod y personau’n meddu ar nodwedd warchodedig gyffredin o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15);
c
bod y personau’n blant (personau o dan 18 oed);
d
bod y personau’n bobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) fel y’u disgrifir yn adran 104 o’r Ddeddf honno;
e
a yw’r personau—
i
yn bersonau y gallai fod arnynt angen gofal a chymorth (fel y’u disgrifir yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)); neu
ii
yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal a chymorth i bersonau y gallai fod ei angen arnynt;
f
unrhyw ffactor cyffredin arall y mae’r Bwrdd yn ei ystyried yn briodol wrth ddisgrifio categori o bersonau.
7
Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i asesiad at—
a
Gweinidogion Cymru;
b
y Comisiynydd;
c
Archwilydd Cyffredinol Cymru;
d
pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.