Mae’r nodau llesiant wedi eu nodi a’u disgrifio yn Nhabl 1—
Nod | Disgrifiad o’r nod |
---|---|
Cymru lewyrchus. | Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar [F1waith teg]. |
Cymru gydnerth. | Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). |
Cymru iachach. | Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. |
Cymru sy’n fwy cyfartal. | Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). |
Cymru o gymunedau cydlynus. | Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. |
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. | Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. | Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 4 Tabl 1 wedi eu hamnewid (1.4.2024) gan Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (asc 1), aau. 20, 48(1); O.S. 2023/794, ergl. 3(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3