Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

4Y nodau llesiantLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Mae’r nodau llesiant wedi eu nodi a’u disgrifio yn Nhabl 1—

TABL 1
NodDisgrifiad o’r nod
Cymru lewyrchus.Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar [F1waith teg].
Cymru gydnerth.Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
Cymru iachach.Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cymru sy’n fwy cyfartal.Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
Cymru o gymunedau cydlynus.Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3