RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL
Cynlluniau llesiant lleol
I140Cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned
1
Rhaid i gyngor cymuned gymryd pob cam rhesymol yn ei ardal tuag at gyflawni’r amcanion lleol a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol sy’n cael effaith yn ei ardal.
2
Ond nid yw cyngor cymuned yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ond os oedd, ar gyfer y tair blynedd ariannol flaenorol cyn i’r cynllun llesiant lleol ar gyfer ei ardal gael ei gyhoeddi, ei incwm gros neu ei wariant gros yn £200,000 o leiaf.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r meini prawf a bennir gan is-adran (2) ar gyfer dyfarnu a yw cyngor cymunedol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1); a chaiff y rheoliadau adlewyrchu’r ddarpariaeth a wneir am gynghorau cymunedol mewn rheoliadau o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23).
4
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
a
y Comisiynydd;
b
y cynghorau cymuned a fyddai’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) pe bai’r rheoliadau yn cael eu gwneud;
c
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
5
Rhaid i gyngor cymuned gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yr oedd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), adroddiad ar y cynnydd y mae wedi ei wneud yn ei ardal o ran cyflawni’r amcanion lleol sydd yn y cynllun llesiant lleol sydd mewn grym yn ei ardal.
6
Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (5) gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
I27
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cynghorau cymuned sy‘n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ynghylch arfer y ddyletswydd.
I38
Wrth arfer y ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned ystyried canllawiau o’r fath.