RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL

Cynlluniau llesiant lleol

I141Paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill

1

Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) i ddarparu gwybodaeth i’r bwrdd ynghylch unrhyw weithred y mae’n ei chyflawni a allai gyfrannu o fewn ardal y bwrdd at gyrraedd y nodau llesiant.

2

Y personau yw—

a

y personau a wahoddir i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, heblaw am Weinidogion Cymru (gweler adran 30);

b

partneriaid eraill y bwrdd (gweler adran 32).

3

Ond nid yw’n ofynnol i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

a

os yw’r person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

i

yn anghydnaws â‘i ddyletswyddau, neu

ii

fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau, neu

b

os yw’r person wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

4

Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (2) yn penderfynu, drwy ddibynnu ar is-adran (3)(a), nad yw’n ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, rhaid iddo roi resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r bwrdd.