RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL
Cynlluniau llesiant lleol
I142Paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y Comisiynydd
1
Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus geisio cyngor y Comisiynydd o ran sut i gymryd camau i gyflawni’r amcanion lleol i’w cynnwys yn y cynllun yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
2
Rhaid i’r Comisiynydd roi’r cyngor—
a
yn ysgrifenedig, a
b
ymhen dim llai na 14 o wythnosau ar ôl ei geisio.
3
Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cyngor y Comisiynydd yr un pryd ag y mae’n cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol.