RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL
Cynlluniau llesiant lleol
I1I245Adroddiadau cynnydd blynyddol
1
Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi adroddiad—
a
ymhen dim mwy na 14 o fisoedd ar ôl cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, a
b
yn dilyn hynny, ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi bob adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.
2
Ond nid oes angen adroddiad o dan is-adran (1)(b) os yw cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi yn rhinwedd adran 39(7) (cyhoeddi cynllun llesiant lleol newydd ar ôl etholiad) ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.
3
Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon bennu’r camau a gymerwyd ers cyhoeddi cynllun llesiant lleol diweddaraf y bwrdd i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.
4
Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.
5
Rhaid i fwrdd anfon copi o bob adroddiad a gyhoeddwyd o dan yr adran hon at y canlynol—
a
Gweinidogion Cymru;
b
y Comisiynydd;
c
Archwilydd Cyffredinol Cymru;
d
pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.