53Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.LL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, drosiannol neu arbed at ddibenion rhoi effaith lawn i un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.
(2)Caiff y rheoliadau (ymysg pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y canlynol neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—
(a)Deddf Seneddol;
(b)Mesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad sydd wedi ei phasio neu ei gwneud ar ôl pasio’r Ddeddf hon.
(4)Nid yw’r pŵer a ddyroddir gan yr adran hon wedi ei gyfyngu gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 mewn grym ar 30.4.2015, gweler a. 56(1)(a)