RHAN 2LL+CGWELLA LLESIANT

Amcanion llesiantLL+C

7Datganiadau ynghylch amcanion llesiantLL+C

(1)Wrth gyhoeddi’r amcanion llesiant (gan gynnwys amcanion llesiant a adolygwyd o dan adran 8 neu 9) rhaid i gorff cyhoeddus hefyd gyhoeddi datganiad sy’n—

(a)egluro pam y mae’r corff yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;

(b)egluro pam y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod wedi gosod amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan gynnwys sut y mae’r corff yn bwriadu cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—

(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu

(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;

(c)nodi’r camau y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny yn unol â’r egwyddor (gan gynnwys sut y mae’n bwriadu ei lywodraethu ei hun, sut y bydd yn parhau i adolygu’r camau a sut y mae’n bwriadu sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n flynyddol at ddiben cymryd camau o’r fath);

(d)pennu’r cyfnodau erbyn pryd y mae’r corff yn disgwyl y bydd yn cyflawni’r amcanion;

(e)darparu unrhyw wybodaeth arall y bydd y corff yn ei hystyried yn briodol ynghylch cymryd y camau a chyflawni’r amcanion.

(2)Caniateir cynnwys amcanion llesiant corff cyhoeddus sydd hefyd yn aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yng nghynllun llesiant lleol y bwrdd hwnnw (gweler Penodau 1 a 2 o Ran 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3