RHAN 2GWELLA LLESIANT
Amcanion llesiant
I1I28Amcanion llesiant Gweinidogion Cymru
1
Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod a’u cyhoeddi—
a
heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y dyddiad y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl cychwyn yr adran hon, a
b
heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredinol dilynol.
2
Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod ar gyfer y cyfnod—
a
sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir at y diben hwnnw yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 7, a
b
sy’n dod i ben gyda diwrnod yr etholiad cyffredinol arferol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
3
Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.
4
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
5
Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio eu hamcanion llesiant.
6
Rhaid i amcanion llesiant a ddiwygir o dan is-adran (4) neu (5) gael eu gosod ar gyfer gweddill y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (2).
7
Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio eu hamcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddynt eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
8
Wrth osod neu ddiwygio eu hamcanion llesiant, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.
9
Yn is-adran (1), ystyr “etholiad cyffredinol” yw—
a
y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), neu
b
y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.