Cynghorydd Cenedlaethol

I1I222Cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol

1

Cyn 30 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol rhaid i’r Cynghorydd Gweinidogol—

a

paratoi cynllun blynyddol yn nodi sut y mae’r Cynghorydd Gweinidogol yn bwriadu arfer swyddogaethau’r Cynghorydd Gweinidogol yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol, a

b

cyflwyno’r cynllun blynyddol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

2

Rhaid i gynllun blynyddol—

a

datgan amcanion a blaenoriaethau’r Cynghorydd Gweinidogol ar gyfer y flwyddyn ariannol mae’r adroddiad yn ymwneud â hi;

b

datgan unrhyw faterion y mae’r Cynghorydd Gweinidogol yn bwriadu adrodd arnynt o dan adran 21(1)(e) yn ystod y flwyddyn honno;

c

datgan unrhyw weithgareddau eraill mae’r Cynghorydd Cenedlaethol yn bwriadu ymgymryd â hwy wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

3

Caiff y Cynghorydd Cenedlaethol ymgynghori ag unrhyw berson wrth baratoi cynllun blynyddol.

4

Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun blynyddol heb addasiadau neu gydag addasiadau y cytunir arnynt gyda’r Cynghorydd Cenedlaethol.

5

Cyn 30 Medi ym mhob blwyddyn ariannol rhaid i’r Cynghorydd Cenedlaethol yrru adroddiad at Weinidogion Cymru ynghylch y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

6

Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol—

a

asesiad o’r graddau y cyflawnwyd amcanion a blaenoriaethau’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi;

b

datganiad o’r materion y mae’r Cynghorydd Cenedlaethol wedi adrodd arnynt o dan adran 21(1)(e) yn ystod y flwyddyn honno;

c

datganiad o’r gweithgareddau eraill yr ymgymerodd y Cynghorydd Cenedlaethol â hwy wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.