Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

22Cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyn 30 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol rhaid i’r Cynghorydd Gweinidogol—

(a)paratoi cynllun blynyddol yn nodi sut y mae’r Cynghorydd Gweinidogol yn bwriadu arfer swyddogaethau’r Cynghorydd Gweinidogol yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol, a

(b)cyflwyno’r cynllun blynyddol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Rhaid i gynllun blynyddol—

(a)datgan amcanion a blaenoriaethau’r Cynghorydd Gweinidogol ar gyfer y flwyddyn ariannol mae’r adroddiad yn ymwneud â hi;

(b)datgan unrhyw faterion y mae’r Cynghorydd Gweinidogol yn bwriadu adrodd arnynt o dan adran 21(1)(e) yn ystod y flwyddyn honno;

(c)datgan unrhyw weithgareddau eraill mae’r Cynghorydd Cenedlaethol yn bwriadu ymgymryd â hwy wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(3)Caiff y Cynghorydd Cenedlaethol ymgynghori ag unrhyw berson wrth baratoi cynllun blynyddol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun blynyddol heb addasiadau neu gydag addasiadau y cytunir arnynt gyda’r Cynghorydd Cenedlaethol.

(5)Cyn 30 Medi ym mhob blwyddyn ariannol rhaid i’r Cynghorydd Cenedlaethol yrru adroddiad at Weinidogion Cymru ynghylch y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

(6)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol—

(a)asesiad o’r graddau y cyflawnwyd amcanion a blaenoriaethau’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi;

(b)datganiad o’r materion y mae’r Cynghorydd Cenedlaethol wedi adrodd arnynt o dan adran 21(1)(e) yn ystod y flwyddyn honno;

(c)datganiad o’r gweithgareddau eraill yr ymgymerodd y Cynghorydd Cenedlaethol â hwy wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.