xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol, a Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, baratoi, ar y cyd, strategaeth (“strategaeth leol”) ar gyfer ardal yr awdurdod lleol.
(2)Rhaid i strategaeth leol—
(a)pennu amcanion y byddant, os cânt eu cyflawni, ym marn yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn cyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon;
(b)pennu o fewn pa gyfnodau y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu cyflawni’r amcanion a bennir;
(c)dynodi’r camau y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir.
(3)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol bennu amcanion sy’n ymwneud ag ardal gyfan yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni.
(4)Caiff strategaeth leol hefyd gynnwys darpariaeth yn ymwneud â chamau gweithredu penodol y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn disgwyl i’r canlynol eu cymryd mewn perthynas ag ardal yr awdurdod lleol—
(a)unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd â swyddogaethau y mae modd iddynt gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, neu
(b)unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae modd i’w weithgareddau gyfrannu at ymgyrraedd at y diben hwnnw.
(5)Ond mae’n ofynnol cael caniatâd y corff neu’r person o dan sylw cyn cynnwys mewn strategaeth leol unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â chamau gweithredu a grybwyllir yn is-adran (4).
[F1(5A)Caniateir cyhoeddi strategaeth leol neu strategaeth ddiwygiedig drwy ei chynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu [F2, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ill dau yn aelodau ohono.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 5(5A) wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (anaw 2), a. 56(2), Atod. 4 para. 35; O.S. 2016/86, ergl. 3
F2Geiriau yn a. 5(5A) wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 9
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 25(3)
I2A. 5 mewn grym ar 4.1.2016 gan O.S. 2015/2019, ergl. 2(a)