Strategaethau lleol
I1I26Cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol
1
Rhaid cyhoeddi strategaeth leol gyntaf awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol heb fod yn hwyrach na un flwyddyn ar ôl dyddiad cynnal yr etholiad arferol cyntaf wedi dyddiad cychwyn adran 5(1).
2
Heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn ar ôl dyddiad pob etholiad arferol dilynol, rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol adolygu eu strategaeth leol.
3
Mewn perthynas ag awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol—
a
cânt adolygu eu strategaeth leol ar unrhyw adeg arall, a
b
rhaid iddynt adolygu eu strategaeth leol os cânt eu cyfarwyddo yn ysgrifenedig i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.
4
Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) nodi’r rhesymau dros roi’r cyfarwyddyd.
5
Os bydd awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu diwygio eu strategaeth leol ar ôl adolygiad, rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
6
Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy cyn—
a
cyhoeddi eu strategaeth leol gyntaf;
b
diwygio eu strategaeth leol.
7
Yn yr adran hon, ystyr “etholiad arferol” yw etholiad a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr i awdurdodau lleol).