Search Legislation

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 57

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 07/01/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Adran 57. Help about Changes to Legislation

57Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etcLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol neu arbed at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad h i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu a wneir oddi tani.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys (pa un ai ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 58(1)(b)

Back to top

Options/Help