Cyflwyniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cymwysterau Cymru 2015, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 16 Mehefin 2015 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 05 Awst 2015. Fe’u lluniwyd gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
2.Nid ydynt yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf ac ni fwriedir iddynt fod felly. Felly pan fo adran neu ran o adran yn hunanesboniadol, ni roddir esboniad na sylw pellach.
Y Cefndir
3.Comisiynwyd yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru gan Weinidogion Cymru yn 2011 a Huw Evans, cyn-bennaeth Coleg Llandrillo oedd y Cadeirydd. Y dasg oedd nodi’r modd y gallai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan Gymru gymwysterau sy’n cael eu deall a’u gwerthfawrogi ac sy’n diwallu anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru, a chyflwynwyd adroddiad i’r Gweinidogion ym mis Tachwedd 2012. Pwysleisiodd yr Adolygiad o Gymwysterau bwysigrwydd sicrhau bod y cymwysterau y mae dysgwyr yn eu dilyn yng Nghymru yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi ledled y byd.
4.Derbyniodd Gweinidogion Cymru y 42 o argymhellion a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Mewn perthynas â’r system gymwysterau yng Nghymru daeth yr adroddiad i’r casgliad “y dylid sefydlu un corff i reoleiddio, cymeradwyo a sicrhau ansawdd pob cymhwyster (yn is na lefel gradd) sydd ar gael yng Nghymru, gan gyflwyno ymagwedd newydd a chryfach at reoleiddio” ac y ”byddai penderfyniadau rheoleiddio yn cael eu gwneud ar wahân i’r llywodraeth”.
5.Rhagwelodd yr adroddiad hefyd y dylai Cymwysterau Cymru ddod yn sefydliad dyfarnu ar gyfer Cymru, gan ddatblygu a dyfarnu’r ”rhan fwyaf o’r cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed a’r rhan fwyaf o’r cymwysterau cyffredinol ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed”.
6.Mae’r Ddeddf hon yn rhoi effaith i ran gyntaf yr argymhelliad am ei bod yn sefydlu corff rheoleiddiol ar gyfer cymwysterau sydd hyd braich oddi wrth Weinidogion Cymru ac sy’n tynnu swyddogaethau rheoleiddiol presennol Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chymwysterau oddi wrthynt. Nid yw’n rhoi pwerau i Gymwysterau Cymru i fod yn gorff dyfarnu. Byddai angen deddfwriaeth bellach i gyflawni hynny.
7.Ar 1 Hydref 2013, cyhoeddwyd papur ymgynghori gan nodi polisi Llywodraeth Cymru a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ym mis Mehefin 2014. Mynegodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad gymeradwyaeth gref i’r cynigion i sefydlu corff rheoleiddiol newydd ac mae’r Ddeddf hon yn rhoi effaith i’r cynigion hynny.
Crynodeb o’r Bil
8.Bydd y Ddeddf hon yn sefydlu sefydliad newydd, Cymwysterau Cymru, i gyflenwi model newydd o reoleiddio. O dan y gyfundrefn a sefydlir gan y Ddeddf, bydd Cymwysterau Cymru yn arfer swyddogaethau rheoleiddiol mewn perthynas â chymwysterau a ddyfernir yng Nghymru. Mae’r swyddogaethau sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o dan y Ddeddf hon yn disodli swyddogaethau tebyg sy’n cael eu harfer gan Weinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 5 o Ddeddf Addysg 1997.
9.Mae’r Ddeddf yn rhoi i Gymwysterau Cymru ddau brif nod sy’n rhoi cyfrifoldeb i Gymwysterau Cymru am sicrhau bod cymwysterau a ddyfernir yng Nghymru (a’r system gymwysterau sy’n sylfaen iddynt) yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion dysgwyr a hybu hyder y cyhoedd ynddynt. Er mwyn mynd i’r afael â nifer o faterion sy’n cyfrannu at effeithiolrwydd a hyder y cyhoedd, mae’n ofynnol i Gymwysterau Cymru ddatblygu a gweithredu system ar gyfer cydnabod cyrff dyfarnu a chymeradwyo a dynodi cymwysterau.
10.Er mwyn rhoi pwerau rheoleiddiol effeithiol i Gymwysterau Cymru, mae’r Ddeddf yn rhoi swyddogaethau i Gymwysterau Cymru i reoleiddio cyrff dyfarnu sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru, i ganolbwyntio ar gymwysterau blaenoriaethol, i gymeradwyo ffurfiau ar gymhwyster (sydd wedyn yn gymwys i gael eu darparu i ddysgwyr sy’n mynychu cyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus), i ddynodi ffurfiau eraill ar gymhwyster fel rhai sy’n gymwys i’w defnyddio ar y cyrsiau dysgu hynny, i gyfyngu ar nifer y ffurfiau penodol ar gymhwyster y caniateir iddynt gael eu cymeradwyo, i gomisiynu ffurfiau newydd ar gymhwyster pan fo cyfyngiad o’r fath yn ei le ac i adolygu cymwysterau a’r system gymwysterau.