Rhan 5:Dynodi Cymwysterau Eraill
65.Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion a nodir yn adran 54(2) (cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol). Gweler hefyd adran 47 o ran y gofyniad i Gymwysterau Cymru lunio datganiad o’i bolisi mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan y Rhan hon.
Adran 29: Dynodi cymwysterau eraill
66.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i ddynodi ffurf ar gymhwyster fel bo’r cymhwyster dynodedig yn gymwys i gael ei ddarparu ar gyrsiau addysg neu hyfforddiant sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus ar gyfer dysgwyr sydd o dan 19 oed. Caiff corff cydnabyddedig wneud cais am ddynodiad mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster y mae’n ei chynnig ac y mae wedi ei gydnabod gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â hi. Dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni bod yr amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni y caiff wneud dynodiad. Mae’r amodau yn ymwneud â phriodoldeb defnyddio’r ffurf ar gymhwyster ar gwrs sy’n cael ei gyllido’n gyhoeddus a phriodoldeb dynodi’r ffurf ar gymhwyster yn hytrach na’i chymeradwyo. Bwriad y gallu i ddynodi ffurfiau ar gymwysterau yw helpu’r broses o drosglwyddo’r cymwysterau o’r gyfundrefn reoleiddiol flaenorol i gyfundrefn Cymwysterau Cymru, gan alluogi Cymwysterau Cymru ei hun i ystyried a barnu pa gymwysterau y dylid eu cymeradwyo – ac eithrio unrhyw un neu ragor y caniateir iddynt gael eu trosglwyddo iddo fel rhai sydd wedi eu cymeradwyo (o dan bwerau i wneud darpariaeth drosiannol yn Rhan 9). Bydd hefyd yn galluogi Cymwysterau Cymru i ganiatáu neu barhau i ganiatáu i gyrsiau sy’n arwain at ffurfiau penodol ar gymhwyster gael eu cyllido’n gyhoeddus lle bo hynny’n briodol, er mwyn osgoi bylchau yn y ddarpariaeth a gyllidir yn gyhoeddus pe bai rhai cymwysterau yn peidio â chael eu cyflwyno ar gyfer eu cymeradwyo. Caiff Cymwysterau Cymru ddynodi ffurfiau ar gymwysterau fel rhai sy’n gymwys i’w defnyddio ar gwrs addysg neu hyfforddiant penodol (er enghraifft, i’w defnyddio ar raglenni prentisiaeth penodol) neu fel rhai sy’n gymwys i gael eu cyllido ar gyrsiau ar gyfer dysgwyr sydd o dan 19 oed yn fwy cyffredinol.
Adran 30: Darpariaeth bellach ynghylch dynodiadau adran 29
67.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol cael terfyn amser ar gyfer dynodiadau o dan adran 29: ar yr adeg y mae’n gwneud dynodiad mae’n ofynnol i Gymwysterau Cymru bennu’r dyddiad y bydd y dynodiad yn dechrau ac yn dod i ben. Bydd dynodiad hefyd yn peidio â chael effaith yn gynt o dan yr amgylchiadau a ganlyn (ac yn yr achosion hyn rhaid i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff dyfarnu am y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith):
os yw cydnabyddiaeth y corff dyfarnu yn dod i ben mewn cysylltiad â’r ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi (felly mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith ar yr un pryd ag y mae’r gydnabyddiaeth yn peidio â chael effaith);
os yw’r ffurf ar gymhwyster a ddynodwyd yn cael ei chymeradwyo o dan Ran 4, o’r dyddiad y mae’n dod yn gymhwyster a gymeradwywyd - er y caiff Cymwysterau Cymru wneud trefniadau trosiannol o dan adran 31 i drin y cymhwyster fel pe bai wedi ei gymeradwyo at ddibenion penodedig am gyfnod estynedig o amser er mwyn osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr; ac
o’r adeg pan gaiff ffurf ar y cymhwyster ei chymeradwyo fel cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig – er y caiff Cymwysterau Cymru, unwaith eto, wneud trefniadau trosiannol o dan adran 31.
68.Caiff Cymwysterau Cymru bennu’r diben y mae dynodiad yn cael effaith ato, a allai fod drwy gyfeirio at yr amgylchiadau y caniateir i gymhwyster dynodedig gael ei ddyfarnu odanynt neu’r personau y caniateir i gymhwyster dynodedig gael ei ddyfarnu iddynt. Gallai hyn alluogi Cymwysterau Cymru i ddatgan, er enghraifft, na chaniateir i’r cymhwyster gael ei gynnig i ddysgwyr sy’n iau nag unrhyw derfyn oedran isaf a osodir ar y cymhwyster gan Gymwysterau Cymru (sy’n debyg, er enghraifft, i amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad ar gyfer cymwysterau a gymeradwywyd - gweler adran 34(3) a (4)). Pan fo dibenion wedi eu pennu, rhaid darparu cwrs sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r dibenion hynny er mwyn iddo gael ei gyllido’n gyhoeddus (adran 34(5)(b)).
Adran 31: Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dynodiadau adran 29
69.Mae’r adran hon yn caniatáu i Gymwysterau Cymru ddarparu i ddynodiadau barhau i gael effaith at ddibenion cyfyngedig ar ôl iddynt beidio, fel arall, â chael effaith (oherwydd naill ai fod y gymeradwyaeth i’r ffurf ar gymhwyster yn cymryd effaith, neu oherwydd bod cymeradwyaeth i ffurf flaenoriaethol gyfyngedig ar y cymhwyster yn cymryd effaith). Caiff Cymwysterau Cymru ddarparu i’r ffurf ar y cymhwyster a ddynodwyd barhau i gael ei drin fel pe bai wedi ei dynodi at ddibenion a hyd at ddiwedd y dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru. Dim ond pan fo Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud darpariaeth drosiannol at ddiben osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr sy’n ceisio cael y ffurf ar y cymhwyster y caiff wneud hynny – er enghraifft, er mwyn caniatáu i ddysgwyr gwblhau cymhwyster y maent wedi dechrau paratoi ar ei gyfer neu er mwyn caniatáu i ddysgwyr ailsefyll cymhwyster.
Adran 32: Dirymu dynodiadau adran 29
70.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i ddirymu dynodiad. Cyn gwneud hyn, rhaid iddo rhoi hysbysiad am ei fwriad i’r corff cydnabyddedig perthnasol sy’n esbonio pam y mae’n bwriadu dirymu ac sy’n datgan pa bryd y bydd yn penderfynu pa un ai i ddirymu ai peidio. Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig ac, os yw’n penderfynu dirymu, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad a pha bryd y mae’r dirymiad i gymryd effaith. Bydd y dirymiad yn gymwys o 1 Medi yn y flwyddyn ar ôl i’r penderfyniad i ddirymu gael ei wneud a dim ond mewn cysylltiad â dysgwyr sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw y mae’n gymwys. Rhaid gwneud yr hysbysiad am ddirymiad i’r corff cydnabyddedig yn ddi-oed ond beth bynnag erbyn (neu ar) 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y caiff ei wneud. Mae hyn yn golygu y bydd gan gyrff cydnabyddedig (ac o ganlyniad darparwyr dysgu a dysgwyr) o leiaf 8 mis rhwng gwybod bod y penderfyniad i ddirymu wedi ei wneud a’r dirymiad yn cael effaith ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Rhaid i’r hysbysiad am y penderfyniad i ddirymu gael ei gyhoeddi.
Adran 33: Rheolau ynghylch ceisiadau am ddynodiad
71.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru wneud a chyhoeddi rheolau am y modd y mae rhaid i geisiadau am ddynodiad gael eu gwneud. Caiff y rheolau fynd i’r afael â’r hyn y dylai ceisiadau o’r fath eu cynnwys ac a oes rhaid talu unrhyw ffi a sut i wneud hynny (ar yr amod bod ffi o’r fath wedi ei chynnwys mewn cynllun cyhoeddedig a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 49). Caiff y rheolau wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol – er enghraifft gall fod rheolau penodol sy’n gymwys i geisiadau ar gyfer dynodi cymwysterau a ddefnyddir mewn prentisiaethau.