11.Mae’r adran hon yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff corfforaethol. Mae’n cyflwyno Atodlen 1 sy’n darparu manylion pellach am ei sefydlu ac Atodlen 2 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru drosglwyddo staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o Weinidogion Cymru i Gymwysterau Cymru.
12.Mae’r adran hon yn nodi prif nodau Cymwysterau Cymru: bydd y rhain yn sail i’r holl waith y bydd Cymwysterau Cymru yn ei wneud - a bydd angen i Gymwysterau Cymru sicrhau bob amser fod ei gamau yn gydnaws â’r nodau hyn. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru, wrth arfer unrhyw swyddogaeth, weithredu mewn ffordd y mae’n ystyried ei bod yn briodol at ddiben cyflawni’r prif nodau.
13.Mae’r prif nod cyntaf yn rhoi’r cyfrifoldeb i Gymwysterau Cymru am sicrhau effeithiolrwydd cymwysterau i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru. Mae ystyr cymhwyster wedi ei ddiffinio yn adran 56. Er bod y prif nod hwn yn eang ei gwmpas, mae Rhan 4 o’r Ddeddf (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau) yn darparu ar gyfer rhoi blaenoriaeth i rai cymwysterau, fel y caiff Cymwysterau Cymru ganolbwyntio ar gymeradwyo cymwysterau. Bydd Cymwysterau Cymru yn gallu dynodi ffurfiau eraill ar gymwysterau o dan Ran 5 fel rhai sy’n gymwys i gael eu cyllido ar raglenni dysgu penodol a rheoleiddio’r broses o ddyfarnu’r cymwysterau hynny a chymwysterau eraill yng Nghymru gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig drwy amodau cydnabod o dan Ran 3 (gweler adran 36). Mae’r prif nod hwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru gymryd cyfrifoldeb am effeithiolrwydd y system gymwysterau yng Nghymru (sef, y system gyfan y dyfernir cymwysterau drwyddi i bersonau a asesir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ar gyfer y cymwysterau hynny, fel y’u diffinnir yn adran 3(3)). Y ‘system’ yw’r seilwaith sy’n sail i’r gwaith o gyflenwi cymwysterau ac sy’n galluogi i hynny gael ei wneud – mae’n cynnwys y ffordd y mae cymwysterau yn cael eu datblygu, eu cyflenwi a’u dyfarnu ynghyd â beth sy’n cael ei ddatblygu, ei gyflenwi a’i ddyfarnu.
14.Mae’r ail brif nod yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hybu hyder y cyhoedd yn y cymwysterau a’r system ategol. Er mwyn i’r cymwysterau a’r system fod yn wirioneddol effeithiol, gyda’i gilydd rhaid iddynt ysbrydoli hyder y cyhoedd. Gallai asesiad o hyder y cyhoedd gynnwys, er enghraifft, lefel hyder cyflogwyr, darparwyr dysgu, dysgwyr, rhieni a gofalwyr yng ngwerth cymharol y cymwysterau a ddilynir yng Nghymru o’u cymharu â’r rheini a ddilynir, er enghraifft, yn Lloegr.
15.Mae is-adran 2 yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r materion y mae rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw iddynt wrth benderfynu ar yr hyn sy’n briodol at ddiben cyflawni ei brif nodau. Er bod y rhan fwyaf o’r materion hyn yn hunanesboniadol, caiff nodiadau ychwanegol eu darparu yma i roi cyd-destun a/neu enghreifftiau i egluro rhai o’r termau:
Mae gweithlu medrus yn ffactor pwysig yn nhwf economi Cymru – ac mae cymwysterau yn ddangosydd o sgiliau darpar weithwyr newydd ac yn ffon fesur ar gyfer datblygu sgiliau’r gweithlu presennol (paragraff (a)).
Bydd angen i Gymwysterau Cymru ystyried yn benodol y ddarpariaeth o asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ac, er enghraifft, y ddarpariaeth o gymwysterau sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu neu ddefnyddio’r Gymraeg (paragraff (b)).
Mae ‘trefniadau asesu’ wedi ei ddiffinio yn adran 57(3) a’i ystyr yw “trefniadau ar gyfer asesu’r sgiliau perthnasol, yr wybodaeth berthnasol a’r ddealltwriaeth berthnasol mewn perthynas â’r cymhwyster”. Gall ystyriaethau gynnwys natur yr asesiad a gyflawnir gan ddysgwyr (er enghraifft, ystyried ansawdd papur arholiad) ynghyd ag, er enghraifft, y trefniadau diogelwch mewn perthynas â storio cofnodion asesu (paragraff (c)).
Gallai gofynion rhesymol cyflogwyr gael eu hystyried, er enghraifft, mewn perthynas â’r angen i roi i ddysgwyr yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n berthnasol i gyflogaeth gyffredinol a phenodol. Gall fod angen i sefydliadau addysg uwch fod wedi eu bodloni, er enghraifft, fod y cymwysterau a ddyfernir i ddysgwyr yng Nghymru yn gwahaniaethu’n ddigonol rhwng lefelau gwahanol o allu ac yn eu paratoi’n ddigonol ar gyfer astudiaeth bellach. Nid yw’r ‘proffesiynau’ wedi eu cyfyngu i unrhyw restr gyfyngedig o broffesiynau ond gellir cymryd eu bod yn cynnwys, er enghraifft, safbwyntiau cynrychiolwyr ac arbenigwyr proffesiynol perthnasol (paragraff (d)).
Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i gynnwys cymwysterau, yn benodol y graddau y maent yn gyfredol ac yn adlewyrchu arferion gorau, er enghraifft, wrth gyflawni tasgau (paragraff (e)).
Gall ‘lefel o gyrhaeddiad sy’n gyson’, er enghraifft, ymwneud â chysondeb dros amser, rhwng cenhedloedd gwahanol (gan gynnwys y rheini yn Ewrop), rhwng pynciau neu rhwng cymwysterau a ddilynir gan grŵp oedran penodol. Yn y cyd-destun hwn, gallai cyrhaeddiad gyfeirio, er enghraifft, at y graddau y mae dysgwyr wedi caffael (neu y mae’n ofynnol iddynt gaffael) y lefel ofynnol o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n ymwneud â’r cymhwyster (paragraff (f)).
Nid yw ystyried a yw cymwysterau yn cael eu cyflenwi yn ‘effeithlon’ wedi ei gyfyngu i ystyriaethau ariannol neu economaidd yn unig ond caiff gynnwys, er enghraifft, ystyriaeth o effaith nifer ac ansawdd y rhyngweithiadau rhwng cyrff ac unigolion gwahanol ar effeithiolrwydd a hyder y cyhoedd (paragraff (g)).
Wrth ystyried effeithiolrwydd y system, bydd angen i Gymwysterau Cymru ystyried rolau a chyfrifoldebau’r gwahanol gyrff yn y system honno, gan gynnwys, er enghraifft, ei rôl ei hun yn y system (paragraff (h)).
16.Caiff cyrff dyfarnu wneud cais am gydnabyddiaeth gyffredinol gan Gymwysterau Cymru a chael eu rheoleiddio gan Gymwysterau Cymru (drwy amodau cydnabod) mewn cysylltiad â chymwysterau y maent wedi eu cydnabod ar eu cyfer ac sy’n cael eu dyfarnu yng Nghymru. Mae adan 57 yn diffinio “corff dyfarnu” fel “person sy’n dyfarnu, neu sy’n bwriadu dyfarnu, cymhwyster”. Nid yw’n ofynnol i gorff dyfarnu fod yn gorff cydnabyddedig er mwyn dyfarnu cymwysterau yng Nghymru. Fodd bynnag, rhaid i gorff dyfarnu fod yn gorff cydnabyddedig er mwyn gwneud cais am gymeradwyaeth neu ddynodiad i ffurf ar gymhwyster y mae’n ei dyfarnu. Yn gyffredinol, dim ond cymwysterau o’r fath sy’n gallu cael eu darparu ar gyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus. Yn ogystal, drwy ddethol cymwysterau gan gorff dyfarnu a gydnabyddir, bydd darparwyr dysgu, a thrwyddynt hwy, dysgwyr, yn cael eu hamddiffyn yn fwy yn sgil goruchwyliaeth gan gorff rheoleiddiol.
17.Mae’r Ddeddf yn cyfeirio at ddau fath o gydnabyddiaeth: cyffredinol a phenodol. Mae cydnabyddiaeth gyffredinol yn cynnwys pob cymhwyster ac eithrio’r rhai y mae Cymwysterau Cymru wedi datblygu meini prawf cydnabod penodol ar eu cyfer. Fodd bynnag, gwneir darpariaeth hefyd yn ddiweddarach yn y Rhan hon yn adran 8 i alluogi cyrff dyfarnu i eithrio cymwysterau penodol o’u cais am gydnabyddiaeth gyffredinol, gan olygu na fyddai Cymwysterau Cymru yn cymhwyso’r amodau cydnabod i’r cymhwyster a eithrir ac felly na fyddai’n rheoleiddio’r cymhwyster a eithrir. Caiff cyrff dyfarnu wneud cais ar ôl hynny i Gymwysterau Cymru os ydynt yn dymuno i’r cymhwyster a eithrir gael ei reoleiddio gan Gymwysterau Cymru yn y dyfodol.
18.Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion a nodir yn adran 54(2) (cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol). Gweler hefyd adran 47 o ran y gofyniad i lunio datganiad o’i bolisi mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan y Rhan hon.
19.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i gydnabod cyrff dyfarnu. Mae adran 57 yn diffinio ystyr “corff dyfarnu”. Dim ond cyrff dyfarnu sydd wedi cael eu cydnabod gan Gymwysterau Cymru a gaiff wneud cais i gael eu cymwysterau wedi eu cymeradwyo neu eu dynodi gan Gymwysterau Cymru (ac felly’n gymwys i gael eu defnyddio ar gyfer cyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus). Fel arfer, mae cyrff dyfarnu yn datblygu cymwysterau ac yn eu cyflenwi drwy ddarparwyr dysgu, megis ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae cyrff dyfarnu yn pennu ac yn gweinyddu trefniadau asesu ac yn atebol am benderfynu pa un ai i ddyfarnu cymhwyster i ddysgwr ai peidio (ac, os yw’n briodol, pa radd y dylid ei dyroddi).
20.Mae Cymwysterau Cymru o dan ddyletswydd i osod a chyhoeddi’r meini prawf y bydd yn ystyried pa un ai i gydnabod, yn gyffredinol, corff dyfarnu ai peidio yn eu herbyn. Cyfeirir at y meini prawf hyn fel ‘meini prawf cydnabod cyffredinol’ ond caniateir meini prawf gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o gyrff dyfarnu. Enghraifft o faen prawf cyffredinol a allai fod yn gymwys i bob corff fyddai gofyniad bod gan corff dyfarnu drefniadau priodol i nodi a monitro achosion o wrthdaro buddiannau. Ar y llaw arall, mae’n bosibl na fydd maen prawf ar y gallu i ddarparu cyfleusterau warws diogel i storio papurau arholiad yn ddiogel yn gymwys i gorff dyfarnu sy’n darparu asesiad ar-lein yn unig.
21.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i benderfynu y dylai cyrff dyfarnu sy’n bwriadu cynnig mathau penodol o gymhwyster, yn ychwanegol at y meini prawf cydnabod cyffredinol, fodloni meini prawf penodol er mwyn cael eu rheoleiddio mewn cysylltiad â hwy ac er mwyn bod yn gymwys i gyflwyno’r mathau hynny o gymhwyster i Gymwysterau Cymru eu cymeradwy neu eu dynodi. Er enghraifft, caniateir i Gymwysterau Cymru ei gwneud yn ofynnol i bob corff dyfarnu sy’n bwriadu cynnig cymwysterau TGAU a/neu Safon Uwch yng Nghymru ddangos ei fod yn gallu bodloni prosesau marcio a graddio mewn pryd i ddyroddi nifer mawr o ganlyniadau cywir ar un dyddiad. Fel yn achos meini prawf cydnabod cyffredinol, caniateir i’r meini prawf cydnabod penodol amrywio yn unol â’r math o gorff dyfarnu. Yn ychwanegol, caniateir iddynt amrywio yn unol â’r math o gymhwyster o dan sylw.
22.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i ddiwygio’r meini prawf cydnabod cyffredinol a’r meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster. Rhaid iddo gyhoeddi’r meini prawf diwygiedig a’i gwneud yn glir o ba ddyddiad y mae’r diwygiadau yn gymwys. Rhaid cyhoeddi meini prawf diwygiedig cyn y gallant ddod i rym. Er nad oes gofyniad datganedig i gorff dyfarnu, unwaith y bydd wedi ei gydnabod, barhau i fodloni’r meini prawf cydnabod cyffredinol neu’r meini prawf sy’n benodol i gymhwyster, gallai Cymwysterau Cymru gynnwys gofyniad o’r fath fel amod cydnabod o dan Atodlen 3.
23.Caiff cyrff dyfarnu wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael eu cydnabod yn gyffredinol yn gorff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru gydnabod pob corff dyfarnu sydd wedi gwneud cais iddo ac sy’n bodloni’r meini prawf cydnabod cyffredinol sydd wedi eu cyhoeddi. Fodd bynnag, caiff cyrff dyfarnu bennu, wrth wneud cais i gael eu cydnabod, nad ydynt yn dymuno cael eu cydnabod yn gyffredinol mewn cysylltiad â chymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster – hynny yw, eu bod yn dymuno eithrio un neu ragor o gymwysterau penodedig rhag cael ei reoleiddio gan Gymwysterau Cymru. Mae’n bosibl y bydd corff dyfarnu yn dymuno gwneud hyn, er enghraifft, yn achos cymhwyster y mae wedi ei ddatblygu i ddiwallu anghenion cyflogwr penodol ac nad yw’n galluogi’r corff dyfarnu i fodloni amodau cydnabod Cymwysterau Cymru (efallai mewn perthynas â strwythur neu enw’r cymhwyster). Mewn achos o’r fath, nid yw’r meini prawf y caiff y cais ei ystyried yn eu herbyn i gynnwys meini prawf i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw gymwysterau a eithrir. Felly pan na fo corff dyfarnu yn bodloni’r holl feini prawf ond nid yw ei fethiant i wneud hynny ond i’r graddau y mae’r meini prawf yn gymwys i gymhwyster y mae wedi ei eithrio o’i gais am gydnabyddiaeth, effaith is-adran (6) yw bod rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff dyfarnu. Os yw corff dyfarnu wedi eithrio cymwysterau o’i gydnabyddiaeth o’r blaen, wedi ildio rhan o’i gydnabyddiaeth gyffredinol neu fod rhan o’i gydnabyddiaeth gyffredinol wedi ei thynnu’n ôl, caiff wneud cais i Gymwysterau Cymru i gynnwys y cymwysterau hynny yn ei gydnabyddiaeth gyffredinol yn y dyfodol (gweler is-adrannau (7) ac (8)).
24.Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi Cymwysterau Cymru i gydnabod corff dyfarnu sydd wedi gwneud cais am gydnabyddiaeth gyffredinol, ond nad yw’n bodloni’r holl feini prawf yn llawn (am resymau ac eithrio nad yw’r meini prawf o dan sylw wedi eu bodloni dim ond mewn cysylltiad â chymwysterau sydd wedi eu heithrio o gais y corff dyfarnu am gydnabyddiaeth). Mae is-adran (5) yn nodi’r materion y mae rhaid i Gymwysterau Cymru eu hystyried wrth benderfynu pa un ai i gydnabod corff dyfarnu nad yw’n bodloni’r holl feini prawf. Gallai’r ddarpariaeth hon gwmpasu sefyllfaoedd pan fo’n dod i’r amlwg, er enghraifft, nad yw maen prawf penodol yn berthnasol i’r corff sy’n cael ei ystyried. Mae’n ofynnol cael cydnabyddiaeth gyffredinol cyn y gall Cymwysterau Cymru gymeradwyo (o dan Ran 4) neu ddynodi (o dan Ran 5) unrhyw gymhwyster sy’n cael ei gynnig gan y corff dyfarnu hwnnw. Er mwyn cael rhai mathau o gymwysterau wedi eu rheoleiddio (a hefyd wedi eu cyflwyno i gael eu cymeradwyo neu eu dynodi) gan Gymwysterau Cymru, mae’n bosibl y bydd rhaid i gorff dyfarnu, yn ychwanegol, gael ’cydnabyddiaeth sy’n benodol i gymhwyster’ o dan adran 9.
25.Mae’r adran hon yn debyg i adran 8 ond mae’n gymwys mewn sefyllfaoedd pan fo corff dyfarnu yn gwneud cais i gael ei gydnabod mewn cysylltiad â chymwysterau y mae meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster yn gymwys iddynt (adran 6). Dim ond os yw corff dyfarnu wedi cael cydnabyddiaeth gyffredinol hefyd y mae’n gallu cael cydnabyddiaeth benodol. Os yw corff yn gwneud cais am gydnabyddiaeth sy’n benodol i gymhwyster, ar yr amod bod y corff hwnnw yn bodloni’r meini prawf cydnabod cyffredinol a’r meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster sy’n gymwys, rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff mewn cysylltiad â’r cymhwyster penodol hwnnw. Fel yn achos y gydnabyddiaeth gyffredinol, os nad yw’r corff yn bodloni’r meini prawf yn llawn, mae gan Gymwysterau Cymru ddisgresiwn i gydnabod y corff o dan yr adran hon.
26.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru wneud a chyhoeddi’r rheolau y mae angen i gyrff dyfarnu eu dilyn wrth wneud eu cais am gydnabyddiaeth i Gymwysterau Cymru. Caniateir i’r rheolau hyn bennu, er enghraifft, y modd y mae rhaid i geisiadau gael eu gwneud ac unrhyw ffioedd sydd i’w talu am ymdrin â’r cais - ar yr amod bod ffi o’r fath wedi ei chynnwys mewn cynllun cyhoeddedig a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru (o dan adran 49).
27.Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion a nodir yn adran 54(2) (cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol). Gweler hefyd adran 47 o ran y gofyniad i lunio datganiad o’i bolisi mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan y Rhan hon.
28.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru i lunio rhestr o gymwysterau sy’n flaenoriaeth i Gymwysterau Cymru. Dim ond os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni mewn perthynas â chymhwyster y caniateir iddynt gynnwys y cymhwyster yn y rhestr. Mater i Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru fydd penderfynu, ar y cyd, ar y math o gymwysterau sy’n cael eu cynnwys yn y rhestr – ond gallai gynnwys, er enghraifft, gymwysterau y mae meini prawf cymeradwyo penodol wedi eu datblygu ar eu cyfer er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru – pa un a yw’r rheini mewn perthynas â’r cwricwlwm yng Nghymru neu, er enghraifft, mewn perthynas â gofynion cyflogwyr yng Nghymru. Bydd y cymwysterau hynny yn cael eu cyhoeddi mewn ‘rhestr o gymwysterau blaenoriaethol’ a chaniateir iddi gael ei diwygio o bryd i’w gilydd, ar yr amod bod Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru yn cytuno. Caniateir i gymwysterau gael eu rhestru naill ai’n unigol, neu drwy gyfeirio at ddisgrifiad sy’n cynnwys mwy nag un cymhwyster.
29.Mae swyddogaethau Cymwysterau Cymru mewn perthynas â chymeradwyo cymwysterau (a nodir yn Rhan 4) yn amrywio yn ôl pa un a yw cymhwyster ar y rhestr ai peidio.
30.Mae is-adran (6) yn cyflwyno’r termau ‘cymhwyster blaenoriaethol’, ‘cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig’ a ‘cymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig’ - y cyfeirir atynt yn adrannau dilynol y Ddeddf.
31.Mae’r adran hon yn rhoi i Gymwysterau Cymru y pŵer i benderfynu y dylai rhai cymwysterau ar y rhestr o gymwysterau blaenoriaethol gael eu cyfyngu i uchafswm nifer y ‘ffurfiau’ (dyma fersiwn benodol o’r cymhwyster a gynigir gan gorff dyfarnu penodol: adran 56(4)) y caniateir iddynt gael eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru ar unrhyw un adeg. Er enghraifft, caiff Cymwysterau Cymru benderfynu nad yw ond yn bwriadu cymeradwyo un fersiwn o TGAU Iaith Saesneg. Yn yr achos hwn byddai’n gwneud penderfyniad o dan yr adran hon a byddai’r cymhwyster hwn yn dod yn gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig.
32.Dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni bod y cyfyngiad a fwriedir yn ddymunol yng ngoleuni ei brif nod a’r amcanion a ganlyn, y caiff wneud penderfyniad o’r fath:
osgoi anghysondeb rhwng ffurfiau gwahanol ar gymhwyster penodol, a
galluogi Cymwysterau Cymru i arfer dewis rhwng cyrff dyfarnu a all fod am ddatblygu ffurf newydd ar y cymhwyster neu rhwng ffurfiau gwahanol ar gymwysterau sy’n cael eu cyflwyno i’w cymeradwyo.
33.Cyn gwneud a chyhoeddi penderfyniad i gyfyngu ar nifer y ffurfiau a gymeradwywyd ar gymhwyster, rhaid i Gymwysterau Cymru hysbysu pob corff dyfarnu cydnabyddedig ac unrhyw berson eraill y mae Cymwysterau Cymru yn meddwl y gellid yn rhesymol ddisgwyl fod ganddo fuddiant yn y cynnig ac ystyried unrhyw ymatebion y mae’n eu cael oddi wrth y personau hynny sy’n ymwneud â’r cynnig.
34.Unwaith y bydd Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi penderfyniad i gyfyngu cymhwyster i uchafswm, yna rhaid iddo arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 15 i 17 er mwyn sicrhau nad oes mwy nag uchafswm y ffurfiau ar y cymhwyster yn cael eu cymeradwyo. Caiff Cymwysterau Cymru ymrwymo i drefniadau gyda chorff dyfarnu er mwyn i’r corff dyfarnu ddatblygu’r cymhwyster a chaiff gymeradwyo’r ffurf ar gymhwyster a ddatblygwyd (mae adrannau 15 ac 16 yn cyfeirio at hynny) neu ddethol i’w gymeradwyo o unrhyw ffurfiau ar gymhwyster a gyflwynir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig (mae adran 17 yn cyfeirio at hynny). Nid yw penderfyniad o dan yr adran hon yn effeithio’n uniongyrchol ar unrhyw gymeradwyaethau sy’n bodoli i’r ffurfiau ar y cymhwyster o dan sylw. Fodd bynnag, gall olygu bod Cymwysterau Cymru yn cymryd camau i dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan adran 27 a bydd yn effeithio’n uniongyrchol ar unrhyw ddynodiadau presennol o’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw (gweler adran 30(3) a (4) i gael manylion am yr adegau pan fo dynodiadau adran 29 yn peidio â chael effaith ar y gymeradwyaeth i’r cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig).
35.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i ymrwymo i drefniadau gyda chorff dyfarnu er mwyn i’r corff ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig. Mae’n bosibl y bydd Cymwysterau Cymru yn dymuno gwneud hyn, er enghraifft, os oes angen mynd i’r afael â gofyniad penodol yn y cwricwlwm yng Nghymru – neu os oes bwlch yn y farchnad mewn perthynas â sgiliau o ran cyflogaeth sy’n bwysig i Gymru. Mae’r trefniadau hynny wedi eu gwneud gyda golwg ar gyflwyno’r ffurf newydd wedyn i Gymwysterau Cymru i’w chymeradwyo a rhaid i Gymwysterau Cymru gymhwyso ei feini prawf cymeradwyo o dan adran 20. Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi cynllun sy’n nodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud trefniadau o’r fath a rhaid i’r weithdrefn fod yn agored, yn deg ac yn dryloyw. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cystadleuaeth agored, deg a thryloyw i ddethol y corff dyfarnu. Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun a chaiff ddiwygio’r cynllun o bryd i’w gilydd. Nid oes angen i gorff dyfarnu fod yn gorff cydnabyddedig er mwyn ymrwymo i drefniadau o dan yr adran hon (er y bydd angen i’r corff fod yn gorff cydnabyddedig er mwyn gwneud cais am gymeradwyaeth o dan adran 16).
36.Bydd Cymwysterau Cymru yn gallu pennu gofynion (‘meini prawf’) ar gyfer y ffurf ar gymhwyster sydd i’w datblygu. Bydd Cymwysterau Cymru hefyd yn gallu, os yw’n dewis, gwneud taliadau i’r corff/cyrff dyfarnu am y gwaith y mae’r corff/cyrff dyfarnu yn ei wneud o dan y trefniadau hyn. Fodd bynnag, nid yw taliad yn ofynnol o reidrwydd.
37.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i gymeradwyo ffurfiau ar gymwysterau sydd wedi eu datblygu o ganlyniad i’r trefniadau a nodir yn adran 15. Caiff cyrff dyfarnu sydd wedi eu dethol o dan y weithdrefn a nodir yn adran 15 ac sydd wedi eu cydnabod gyflwyno ffurf ar gymhwyster, y maent wedi ei datblygu wedi iddynt gael eu dethol, i Gymwysterau Cymru i’w chymeradwyo. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru ystyried a phenderfynu pa un ai i gymeradwyo’r ffurf hon ar gymhwyster ai peidio ac wrth wneud hynny, bydd yn cymhwyso ei feini prawf a gyhoeddwyd o dan adran 20. Rhaid bodloni unrhyw ofynion sylfaenol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu pennu (gweler adran 21), sy’n berthnasol i’r cymhwyster hwn, cyn y caiff Cymwysterau Cymru gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster. Dim ond am gyfnod cyfyngedig y caniateir i gymeradwyaeth o dan yr adran hon gael ei rhoi (gweler adran 23(1)).
38.Mae’r adran hon yn darparu camau gweithredu amgen (i’r hyn a nodir yn adran 15) er mwyn i Gymwysterau Cymru benderfynu pa un ai i gymeradwyo ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig ai peidio.
39.Pan fo Cymwysterau Cymru yn dewis peidio â dilyn y llwybr o ddethol corff dyfarnu i ddatblygu cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig o dan adran 15, caiff Cymwysterau Cymru gymeradwyo ffurfiau ar y cymwysterau cyfyngedig a gyflwynir iddo gan gyrff cydnabyddedig. Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi cynllun ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth iddo o dan yr adran hon, a’r ffordd y mae’n ystyried y ceisiadau hynny. Pan fydd cymwysterau Cymru yn cael cais i gymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig nad yw wedi ei gomisiynu ganddo o dan adran 15, rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried y cais yn unol â’i gynllun. Rhaid i’r cynllun nodi gweithdrefn agored, deg a thryloyw. Unwaith eto, gwneir hyn er mwyn sicrhau proses gystadleuol, sy’n cyflawni’r nodweddion hynny, i ddethol y ffurf/ffurfiau a gymeradwywyd ar y cymhwyster. Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun o bryd i’w gilydd.
40.Rhaid i Gymwysterau Cymru gymhwyso ei feini prawf a gyhoeddwyd o dan adran 20 wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a gyflwynir iddo ai peidio. Yn ogystal, rhaid bodloni unrhyw ofynion sylfaenol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu pennu o dan adran 21 ac sy’n berthnasol i’r cymhwyster hwn, cyn y caiff Cymwysterau Cymru gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster. Dim ond am gyfnod cyfyngedig y caniateir i gymeradwyaeth o dan yr adran hon gael ei rhoi (gweler adran 23(1)).
41.Pan na fo cymhwyster ar y rhestr o gymwysterau blaenoriaethol yn gyfyngedig, caiff unrhyw gorff dyfarnu a gydnabyddir yn briodol gyflwyno ffurf ar y cymhwyster hwn i Gymwysterau Cymru i’w chymeradwyo.
42.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Gymwysterau Cymru i ystyried pa un ai i gymeradwyo ffurfiau ar gymhwyster sydd ar y rhestr o gymwysterau blaenoriaethol ac y mae cais am gymeradwyaeth wedi ei wneud mewn cysylltiad â hwy. Wrth ystyried cymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig i’w gymeradwyo, rhaid i Gymwysterau Cymru gymhwyso ei feini prawf a gyhoeddwyd o dan adran 20.
43.Wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo ai peidio, rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un a ymdriniwyd ag unrhyw ofynion sylfaenol perthnasol a bennwyd gan Weinidogion Cymru (mewn perthynas â gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth - gweler adran 21) gan unrhyw ffurf ar y cymhwyster y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu ei chymeradwyo. Os na fodlonwyd amodau o’r fath, yna rhaid i Gymwysterau Cymru beidio â chymeradwyo’r ffurf honno ar y cymhwyster. Caniateir i’r cymeradwyaethau i gymwysterau blaenoriaethol anghyfyngedig fod am gyfnod cyfyngedig neu am gyfnod amhenodol, fel a bennir gan Gymwysterau Cymru (gweler adran 23(2)).
44.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i ddewis pa un ai i ystyried ai peidio, i’w cymeradwyo, ffurfiau ar gymhwyster nad ydynt wedi eu rhestru ar y rhestr o gymwysterau blaenoriaethol. Mae’n sefydlu gwahaniaeth rhwng ceisiadau am gymeradwyaeth i ffurfiau ar gymhwyster ar y rhestr (y mae rhaid i Gymwysterau Cymru eu hystyried, neu y mae rhaid iddo eu hystyried yn unol â’i gynllun (adrannau 16 - 18)) a cheisiadau am gymeradwyaeth i ffurfiau ar gymhwyster nad ydynt ar y rhestr (y caiff Cymwysterau Cymru eu hystyried).
45.Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi cynllun sy’n nodi’r ffactorau y mae’n debygol o’u hystyried wrth benderfynu pa un ai i ystyried ceisiadau am gymeradwyaeth i ffurfiau ar gymwysterau nad ydynt yn gymwysterau blaenoriaethol. O ganlyniad, bydd cyrff dyfarnu a phartïon eraill â chanddynt fuddiant yn ymwybodol o broses Cymwysterau Cymru wrth iddo fynd ati i wneud penderfyniad a gellir gwneud penderfyniadau mewn modd tryloyw.
46.Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu ystyried ffurf ar gymhwyster nad yw’n gymhwyster blaenoriaethol i’w gymeradwyo, rhaid i unrhyw ofynion sylfaenol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu pennu (gweler adran 21), ac sy’n berthnasol i’r cymhwyster, gael eu bodloni cyn y caiff Cymwysterau Cymru gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster. Rhaid i Gymwysterau Cymru gymhwyso ei feini prawf (gweler adran 20) wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster. Caniateir i’r cymeradwyaethau i ffurfiau ar gymhwyster nad yw’n gymhwyster blaenoriaethol fod am gyfnod cyfyngedig neu am gyfnod amhenodol, fel a bennir gan Gymwysterau Cymru (gweler adran 23(2)).
47.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r meini prawf y mae’n eu ddefnyddio i benderfynu pa un ai i gymeradwyo ffurf ar gymhwyster ai peidio. Caniateir amrywiaeth o feini prawf gwahanol – er enghraifft, ar gyfer disgrifiadau gwahanol o gymwysterau megis ‘pob TGAU’ neu ar gyfer ‘pob cymhwyster pan fo perfformiad yn cael ei arsylwi mewn amgylchedd gwaith’, neu’n fwy penodol ar gyfer ‘Ffrangeg Safon Uwch’.
48.Mae pŵer Cymwysterau Cymru o dan adran 20 yn ddigon eang i alluogi i feini prawf cymeradwyo nodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol ar gyfer cymwysterau blaenoriaethol penodol (ac, yn benodol, cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig) ynghyd â gofynion sy’n ymwneud â’r gofynion asesu. Wrth ystyried beth sy’n briodol i gyflawni ei brif nodau o dan adran 3, gallai Cymwysterau Cymru hefyd ymgysylltu, er enghraifft, â chyflogwyr, sefydliadau addysg uwch a’r proffesiynau i sicrhau bod y meini prawf yn adlewyrchu eu gofynion rhesymol yn briodol.
49.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n nodi gofynion ar gyfer cymhwyster mewn perthynas â’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth (‘cynnwys pwnc’ i bob pwrpas) y mae’n ofynnol i’r ffurfiau a gymeradwywyd ar y cymhwyster hwnnw ymdrin â hwy.
50.Caiff Cymwysterau Cymru bennu gofynion cynnwys ar gyfer cymwysterau blaenoriaethol drwy’r meini prawf cymeradwyo a chaiff hyn fynd i’r afael ag unrhyw ofynion o’r fath sydd gan Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, rhagwelir ei bod yn annhebygol y bydd y pŵer yn cael ei ddefnyddio ac eithrio mewn sefyllfa pan nad oes dewis arall pe bai Cymwysterau Cymru, ym marn Gweinidogion Cymru, yn methu â sicrhau bod meini prawf cymeradwyo yn mynd i’r afael â’r gofynion o ran cynnwys yn ddigonol. Felly bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru sicrhau bod gofynion penodol wedi eu bodloni pan fo Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer cwrs sy’n arwain at y cymhwyster yn briodol at anghenion rhesymol y dysgwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs. Mae’r pŵer hwn yn adlewyrchu cyfrifoldebau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r cwricwlwm ar gyfer ysgolion o dan Ddeddf Addysg 2002.
51.Mae’r Ddeddf yn nodi nifer o amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau. Mae’r amodau hyn yn sicrhau mai dim ond gyda’r diben o sicrhau bod dysgwyr yn dilyn cwricwlwm priodol y caiff y rheoliadau eu cyflwyno. Nid oes angen i hyn fod yn unrhyw ‘cwricwlwm cenedlaethol’ sydd wedi ei gyhoeddi o reidrwydd ond rhaid i’r gofynion a nodir mewn rheoliadau ymwneud â’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth y mae rhaid i’r dysgwr eu dangos at ddiben penderfynu a yw’r cymhwyster i gael ei ddyfarnu i berson. Cyn pennu gofynion sylfaenol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chymwysterau Cymru ac eraill, fel y bo’n briodol, gan roi resymau dros gynnig pennu gofynion sylfaenol.
52.Effaith cyflwyno gofynion sylfaenol yw na chaiff Cymwysterau Cymru gymeradwyo ffurf ar y cymhwyster hwnnw oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cymhwyster yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y rheoliadau. Rhaid i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y gallant gael eu gwneud a dod i rym (gweler adran 55(2)).
53.Mae unrhyw gymeradwyaeth gan Gymwysterau Cymru i ffurf ar gymhwyster yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffurf ar gymhwyster gael ei nodi â rhif cymeradwyo er mwyn iddi gael ei dyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd. Bydd Cymwysterau Cymru yn rhoi cyfeirnod unigryw i bob ffurf ar gymhwyster y mae’n ei chymeradwyo. Dim ond os dyfernir y rhif hwnnw i’r ffurf ar gymhwyster yn unol â’r amod y caiff y ffurf ar gymhwyster ei dyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd. Bydd hyn yn gwahaniaethu rhwng dyfarnu ffurf a gymeradwywyd ar gymhwyster a dyfarnu unrhyw ffurfiau tebyg ar gymhwyster nad ydynt wedi eu cymeradwyo.
54.Mae’r adran hon hefyd yn rhoi’r disgresiwn i Gymwysterau Cymru i gymhwyso amodau pellach wrth iddo gymeradwyo ffurfiau ar gymwysterau – naill ai ar yr adeg y mae’r cymwysterau yn cael eu cymeradwyo, neu’n ddiweddarach. Caiff yr amodau cymeradwyo, er enghraifft, ymwneud â’r amgylchiadau pan ddyfernir cymhwyster, neu’r personau y dyfernir y cymhwyster iddynt. Er enghraifft, gall amod atal y ffurf a gymeradwywyd ar y cymhwyster rhag cael ei dyfarnu i ddysgwyr o dan 18 oed. Os yw Cymwysterau Cymru yn newid amodau cymeradwyo ar ôl i gymhwyster gael ei gymeradwyo (neu’n cyflwyno rhai newydd sy’n gymwys i gymhwyster a gymeradwywyd) rhaid iddo hysbysu’r cyrff dyfarnu am y newid, y dyddiad y bydd yn cael effaith a’r rhesymau dros y newid. Mae hyn er mwyn sicrhau, er enghraifft, fod cyrff dyfarnu yn cael amser rhesymol i ddiwygio eu cymwysterau, os yw’n briodol, er mwyn ymdrin â’r amodau newydd neu i ofyn i’r amodau newydd neu’r amrywiadau gael eu cymhwyso iddynt mewn ffordd wahanol. Mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r amodau cymeradwyo, caiff Cymwysterau Cymru arfer ei bŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan adran 27 neu ei bwerau gorfodi o dan Ran 7 neu ei bŵer i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl o dan baragraff 19(2) o Atodlen 3.
55.Rhaid i gymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig gael eu cymeradwyo am gyfnod cyfyngedig fel y caniateir i gyrff dyfarnu eraill gystadlu i fod yn ddarparwr cymhwyster cyfyngedig ar gyfer pob cyfnod cyfyngedig.
56.Caniateir i gymwysterau blaenoriaethol anghyfyngedig a chymwysterau nad ydynt yn gymwysterau blaenoriaethol gael eu cymeradwyo am gyfnod amhenodol neu am gyfnod cyfyngedig. Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei rhoi am gyfnod cyfyngedig, rhaid gwneud hyn yn glir pan fydd y gymeradwyaeth yn cael ei rhoi – a phan ddigwydd hyn, mae’r gymeradwyaeth yn peidio â bod ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. I gael manylion am y modd y caniateir i gymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl neu ei hildio, gweler y nodiadau ar gyfer adrannau 25 i 28. Rhagwelir ei bod yn debygol y bydd Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi, ar ei gronfa ddata ar-lein, fanylion am yr holl gymwysterau a gymeradwywyd a’r manylion ynghylch pa bryd y mae pob cymeradwyaeth yn cael effaith.
57.Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud a chyhoeddi rheolau am y modd y mae ceisiadau am gymeradwyaeth yn cael eu gwneud, a chânt gwmpasu’r hyn y dylai ceisiadau o’r fath ei gynnwys ac a oes rhaid talu unrhyw ffi a sut i wneud hynny (ar yr amod bod ffi o’r fath wedi ei chynnwys mewn cynllun cyhoeddedig a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 49). Caiff y rheolau wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol – er enghraifft gall fod rheolau penodol sy’n gymwys i geisiadau am gymeradwyaeth i gymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig ond nad ydynt yn gymwys i fathau eraill o gymwysterau blaenoriaethol.
58.Caniateir i gorff dyfarnu roi hysbysiad ildio i Gymwysterau Cymru sy’n gofyn iddo ddileu ei gymeradwyaeth i un neu ragor o ffurfiau ar gymhwyster. Rhaid i’r hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff dyfarnu yn dymuno i’r gymeradwyaeth ddod i ben. Rhaid i Gymwysterau Cymru weithredu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wrth gydnabod cais o’r fath. Yn y gydnabyddiaeth honno, caiff Cymwysterau Cymru ei gwneud yn ofynnol i gymeradwyaeth ddod i ben ar ddyddiad gwahanol i’r hyn a awgrymwyd gan y corff dyfarnu, a rhaid iddo roi resymau dros benderfynu bod y gymeradwyaeth yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw. Wrth benderfynu a ddylid cadw’r dyddiad a bennwyd gan y corff dyfarnu neu a ddylid gosod dyddiad gwahanol, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr (er enghraifft, y rheini sydd eisoes ar gwrs sy’n arwain at y cymhwyster o dan sylw) ac i ddymuniad y corff dyfarnu i’r gymeradwyaeth ddod i ben ar y dyddiad y mae wedi ei bennu.
59.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r gydnabyddiaeth o ildio a roddir gan Gymwysterau Cymru o dan adran 25 ddarparu ar gyfer cyfnod estyn ar ôl y dyddiad ildio tan ddyddiad diweddarach (y dyddiad estyn). Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r ffurf ar y cymhwyster yn parhau i gael ei thrin fel un sydd wedi ei chymeradwyo, ond dim ond at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio. Dim ond os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr y mae modd gwneud hyn – er enghraifft i roi cyfle i ddysgwyr i ailsefyll y cymhwyster. Mae “dyddiad ildio” a “dyddiad estyn” wedi eu diffinio yn yr adran hon.
60.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i roi terfyn ar ei gymeradwyaeth i ffurf ar gymhwyster drwy dynnu’r gymeradwyaeth yn ôl. Y rhesymau dros dynnu cymeradwyaeth yn ôl yw bod Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni:
nad yw’r corff dyfarnu wedi cydymffurfio ag amod cymeradwyo (o dan adran 22). Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, os yw’r corff dyfarnu yn methu â chydymffurfio â’r amodau a nodwyd ar adeg rhoi’r gymeradwyaeth neu’n eu hepgor, neu os yw’r amodau cymeradwyo (megis gofynion gwybodaeth) yn newid a bod y cymhwyster yn peidio â chydymffurfio â’r amodau mwyach (yn yr achos hwn gallai corff dyfarnu fwriadu cyflwyno ffurf ar gymhwyster yn ei lle i’w chymeradwyo);
nad yw’r corff dyfarnu sy’n cynnig y ffurf honno ar gymhwyster yn cael ei gydnabod mwyach yn gorff dyfarnu gan Gymwysterau Cymru (mewn cysylltiad â’r ffurf honno ar gymhwyster). Mae cydnabyddiaeth yn peidio â chael effaith o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 192) o Atodlen 3;
bod y cymhwyster o dan sylw wedi dod yn gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn unol â phenderfyniad o dan adran 14 (bydd Cymwysterau Cymru wedi ymgynghori â chyrff cydnabyddedig ac eraill cyn i hynny ddigwydd).
61.Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y mae rhaid i Gymwysterau Cymru ei wneud cyn y gall dynnu cymeradwyaeth yn ôl. Rhaid i Gymwysterau Cymru:
hysbysu’r corff dyfarnu am fwriad Cymwysterau Cymru i ddyroddi hysbysiad tynnu’n ôl, gan esbonio pam y mae’n bwriadu tynnu’r gymeradwyaeth yn ôl a pha bryd y mae’n bwriadu gwneud y penderfyniad; a
ystyried unrhyw ymateb a ddarparwyd gan y corff dyfarnu.
62.Os yw Cymwysterau Cymru wedyn yn penderfynu tynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid iddo hysbysu’r corff dyfarnu, gan bennu’r dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i gael ei thynnu’n ôl. Rhoddir hefyd y pŵer i Gymwysterau Cymru i amrywio’r dyddiad tynnu’n ôl, ar yr amod bod y corff dyfarnu yn cydsynio i’r amrywiad hwnnw. Gallai amrywiad alluogi Cymwysterau Cymru i ystyried yr amser y mae ei angen i ddatblygu cymwysterau yn lle’r cymwysterau sy’n bodoli ac i estyn yr amser hwnnw os oes oedi, er enghraifft.
63.Wrth benderfynu ar ddyddiad i dynnu cymeradwyaeth yn ôl neu ar amrywiad i’r dyddiad hwnnw, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr, megis y rheini sydd eisoes yn dilyn cwrs sy’n arwain at y cymhwyster o dan sylw.
64.Caiff Cymwysterau Cymru wneud trefniadau i barhau i drin ffurf ar gymhwyster, y mae’r gymeradwyaeth iddi wedi ei thynnu’n ôl, fel pe bai wedi ei chymeradwyo, am amser penodedig ac at ddibenion penodedig, er mwyn osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr – er enghraifft, er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr i ailsefyll y cymhwyster. Mae’r ddarpariaeth hon yn debyg i’r ddarpariaeth drosiannol y caniateir iddi gael ei gwneud mewn cysylltiad ag ildio cymeradwyaeth, fel y’i disgrifir yn y nodiadau ar gyfer adran 26.
65.Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion a nodir yn adran 54(2) (cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol). Gweler hefyd adran 47 o ran y gofyniad i Gymwysterau Cymru lunio datganiad o’i bolisi mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan y Rhan hon.
66.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i ddynodi ffurf ar gymhwyster fel bo’r cymhwyster dynodedig yn gymwys i gael ei ddarparu ar gyrsiau addysg neu hyfforddiant sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus ar gyfer dysgwyr sydd o dan 19 oed. Caiff corff cydnabyddedig wneud cais am ddynodiad mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster y mae’n ei chynnig ac y mae wedi ei gydnabod gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â hi. Dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni bod yr amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni y caiff wneud dynodiad. Mae’r amodau yn ymwneud â phriodoldeb defnyddio’r ffurf ar gymhwyster ar gwrs sy’n cael ei gyllido’n gyhoeddus a phriodoldeb dynodi’r ffurf ar gymhwyster yn hytrach na’i chymeradwyo. Bwriad y gallu i ddynodi ffurfiau ar gymwysterau yw helpu’r broses o drosglwyddo’r cymwysterau o’r gyfundrefn reoleiddiol flaenorol i gyfundrefn Cymwysterau Cymru, gan alluogi Cymwysterau Cymru ei hun i ystyried a barnu pa gymwysterau y dylid eu cymeradwyo – ac eithrio unrhyw un neu ragor y caniateir iddynt gael eu trosglwyddo iddo fel rhai sydd wedi eu cymeradwyo (o dan bwerau i wneud darpariaeth drosiannol yn Rhan 9). Bydd hefyd yn galluogi Cymwysterau Cymru i ganiatáu neu barhau i ganiatáu i gyrsiau sy’n arwain at ffurfiau penodol ar gymhwyster gael eu cyllido’n gyhoeddus lle bo hynny’n briodol, er mwyn osgoi bylchau yn y ddarpariaeth a gyllidir yn gyhoeddus pe bai rhai cymwysterau yn peidio â chael eu cyflwyno ar gyfer eu cymeradwyo. Caiff Cymwysterau Cymru ddynodi ffurfiau ar gymwysterau fel rhai sy’n gymwys i’w defnyddio ar gwrs addysg neu hyfforddiant penodol (er enghraifft, i’w defnyddio ar raglenni prentisiaeth penodol) neu fel rhai sy’n gymwys i gael eu cyllido ar gyrsiau ar gyfer dysgwyr sydd o dan 19 oed yn fwy cyffredinol.
67.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol cael terfyn amser ar gyfer dynodiadau o dan adran 29: ar yr adeg y mae’n gwneud dynodiad mae’n ofynnol i Gymwysterau Cymru bennu’r dyddiad y bydd y dynodiad yn dechrau ac yn dod i ben. Bydd dynodiad hefyd yn peidio â chael effaith yn gynt o dan yr amgylchiadau a ganlyn (ac yn yr achosion hyn rhaid i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff dyfarnu am y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith):
os yw cydnabyddiaeth y corff dyfarnu yn dod i ben mewn cysylltiad â’r ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi (felly mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith ar yr un pryd ag y mae’r gydnabyddiaeth yn peidio â chael effaith);
os yw’r ffurf ar gymhwyster a ddynodwyd yn cael ei chymeradwyo o dan Ran 4, o’r dyddiad y mae’n dod yn gymhwyster a gymeradwywyd - er y caiff Cymwysterau Cymru wneud trefniadau trosiannol o dan adran 31 i drin y cymhwyster fel pe bai wedi ei gymeradwyo at ddibenion penodedig am gyfnod estynedig o amser er mwyn osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr; ac
o’r adeg pan gaiff ffurf ar y cymhwyster ei chymeradwyo fel cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig – er y caiff Cymwysterau Cymru, unwaith eto, wneud trefniadau trosiannol o dan adran 31.
68.Caiff Cymwysterau Cymru bennu’r diben y mae dynodiad yn cael effaith ato, a allai fod drwy gyfeirio at yr amgylchiadau y caniateir i gymhwyster dynodedig gael ei ddyfarnu odanynt neu’r personau y caniateir i gymhwyster dynodedig gael ei ddyfarnu iddynt. Gallai hyn alluogi Cymwysterau Cymru i ddatgan, er enghraifft, na chaniateir i’r cymhwyster gael ei gynnig i ddysgwyr sy’n iau nag unrhyw derfyn oedran isaf a osodir ar y cymhwyster gan Gymwysterau Cymru (sy’n debyg, er enghraifft, i amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad ar gyfer cymwysterau a gymeradwywyd - gweler adran 34(3) a (4)). Pan fo dibenion wedi eu pennu, rhaid darparu cwrs sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r dibenion hynny er mwyn iddo gael ei gyllido’n gyhoeddus (adran 34(5)(b)).
69.Mae’r adran hon yn caniatáu i Gymwysterau Cymru ddarparu i ddynodiadau barhau i gael effaith at ddibenion cyfyngedig ar ôl iddynt beidio, fel arall, â chael effaith (oherwydd naill ai fod y gymeradwyaeth i’r ffurf ar gymhwyster yn cymryd effaith, neu oherwydd bod cymeradwyaeth i ffurf flaenoriaethol gyfyngedig ar y cymhwyster yn cymryd effaith). Caiff Cymwysterau Cymru ddarparu i’r ffurf ar y cymhwyster a ddynodwyd barhau i gael ei drin fel pe bai wedi ei dynodi at ddibenion a hyd at ddiwedd y dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru. Dim ond pan fo Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud darpariaeth drosiannol at ddiben osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr sy’n ceisio cael y ffurf ar y cymhwyster y caiff wneud hynny – er enghraifft, er mwyn caniatáu i ddysgwyr gwblhau cymhwyster y maent wedi dechrau paratoi ar ei gyfer neu er mwyn caniatáu i ddysgwyr ailsefyll cymhwyster.
70.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i ddirymu dynodiad. Cyn gwneud hyn, rhaid iddo rhoi hysbysiad am ei fwriad i’r corff cydnabyddedig perthnasol sy’n esbonio pam y mae’n bwriadu dirymu ac sy’n datgan pa bryd y bydd yn penderfynu pa un ai i ddirymu ai peidio. Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig ac, os yw’n penderfynu dirymu, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad a pha bryd y mae’r dirymiad i gymryd effaith. Bydd y dirymiad yn gymwys o 1 Medi yn y flwyddyn ar ôl i’r penderfyniad i ddirymu gael ei wneud a dim ond mewn cysylltiad â dysgwyr sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw y mae’n gymwys. Rhaid gwneud yr hysbysiad am ddirymiad i’r corff cydnabyddedig yn ddi-oed ond beth bynnag erbyn (neu ar) 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y caiff ei wneud. Mae hyn yn golygu y bydd gan gyrff cydnabyddedig (ac o ganlyniad darparwyr dysgu a dysgwyr) o leiaf 8 mis rhwng gwybod bod y penderfyniad i ddirymu wedi ei wneud a’r dirymiad yn cael effaith ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Rhaid i’r hysbysiad am y penderfyniad i ddirymu gael ei gyhoeddi.
71.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru wneud a chyhoeddi rheolau am y modd y mae rhaid i geisiadau am ddynodiad gael eu gwneud. Caiff y rheolau fynd i’r afael â’r hyn y dylai ceisiadau o’r fath eu cynnwys ac a oes rhaid talu unrhyw ffi a sut i wneud hynny (ar yr amod bod ffi o’r fath wedi ei chynnwys mewn cynllun cyhoeddedig a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 49). Caiff y rheolau wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol – er enghraifft gall fod rheolau penodol sy’n gymwys i geisiadau ar gyfer dynodi cymwysterau a ddefnyddir mewn prentisiaethau.
72.Mae’r adran hon yn gosod cyfyngiad ar gyllid cyhoeddus ar gyfer cyrsiau addysg neu hyfforddiant ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed, os yw’r cyrsiau hynny yn arwain at gymwysterau., Dim ond os yw’r ffurfiau ar gymwysterau o dan sylw yn rhai a ddyfernir gan gorff cydnabyddedig fel y’u cymeradwywyd gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 4 (sef, eu bod wedi eu dyfarnu â’r rhif cymeradwyo), neu os ydynt wedi eu dynodi gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 5 y caniateir i’r cyrsiau hynny gael eu cyllido gan Weinidogion Cymru, gan awdurdodau lleol neu gael eu darparu gan (neu ar ran) ysgol a gynhelir. Mewn achos pan fo ysgol a gynhelir yn darparu’r cwrs (neu fod y cwrs yn cael ei ddarparu ar ei rhan), rhaid i’r awdurdod lleol a’r corff llywodraethu sicrhau eu bod yn glynu wrth y cyfyngiad hwn. Mae Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn y ffordd y caiff ysgolion a gynhelir eu cynnal ac yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ymyrryd wrth i awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau addysg. Effaith adran 57(1) o’r Ddeddf hon (sy’n darparu i’r Ddeddf hon gael ei darllen ar y cyd â Deddf Addysg 1996) ac adran 61(2) (sy’n darparu i’r Ddeddf hon fod yn un o’r Deddfau Addysg) yw y byddai’r pwerau ymyrryd hyn ar gael pe bai corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd o dan yr adran hon.
73.Mae hefyd yn ofynnol i’r cwrs gael ei ddarparu yn unol ag unrhyw amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad sydd ynghlwm wrth y gymeradwyaeth (yn achos cymhwyster a gymeradwywyd), neu yn unol ag unrhyw ddibenion penodedig y mae’r dynodiad i gael effaith atynt (yn achos dynodiad). Mae is-adran (4) yn esbonio bod amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad yn amod cymeradwyo sy’n ymwneud â’r person neu’r disgrifiad o berson y caniateir i’r cymhwyster gael ei ddyfarnu iddo – megis cyfyngiad sy’n seiliedig ar oedran dysgwyr.
74.Mae eithriad penodol i’r cyfyngiad hwn ar gyfer unrhyw gwrs sy’n cael ei ddarparu i berson sydd ag anhawster dysgu: nid yw’r eithriad hwn ond yn ymwneud â’r cwrs a ddarperir i’r person sydd ag anhawster dysgu ac nid yw’n darparu eithriad mewn perthynas â dysgwyr eraill ar y cwrs hwnnw. Yn ddibynnol ar bwerau cyllido’r corff awdurdodedig, byddai’r eithriad hwn yn ei alluogi i gyllido cyrsiau a ddarperir i unrhyw ddysgwr sydd ag anhawster dysgu pa gymhwyster bynnag y mae’r cwrs yn arwain ato a pha le bynnag y darperir y cwrs, er enghraifft pa un ai yng Nghymru neu y tu allan iddi. Mae adran 57(5) yn diffinio ystyr person ag anhawster dysgu at ddibenion y Ddeddf hon.
75.Mae is-adran (8) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud eithriadau pellach i’r cyfyngiad hwn - naill ai ar gyfer rhai cyrsiau penodol neu ar gyfer amgylchiadau penodol eraill neu achosion penodol a all godi. Er enghraifft, gellid ystyried gwneud eithriad er mwyn galluogi dysgwr sydd wedi symud o ysgol yn y sector annibynnol i ysgol a gynhelir yng Nghymru i gymryd y cymhwyster y mae wedi ei baratoi ar ei gyfer. Gwneir yr eithriad gan Weinidogion Cymru drwy ddynodi’r cwrs yn ysgrifenedig.
76.Nid yw dynodiad gan Weinidogion Cymru yn sefydlu llwybr arall ar gyfer cymeradwyo cymwysterau - ei effaith yw ei bod yn bosibl y bydd cyrff awdurdodedig yn gallu cyllido cyrsiau ar gyfer dysgwyr sydd o dan 19 oed er eu bod yn arwain at ffurf ar gymhwyster nad yw wedi ei chymeradwyo na’i dynodi gan Gymwysterau Cymru.
77.Fel arall, nid yw’r Ddeddf yn cyfyngu ar y cymwysterau y caniateir iddynt gael eu defnyddio ar gyrsiau. Er enghraifft, gallai ysgol annibynnol yng Nghymru ddarparu cyrsiau sy’n arwain at ffurfiau ar gymwysterau nad ydynt wedi eu cymeradwyo na’u dynodi gan Gymwysterau Cymru.
78.Mae adran 35 yn osgoi ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dyfarnu fel pe bai wedi ei chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru rhag cael ei rheoleiddio ar yr un pryd gan Gymwysterau Cymru ac Ofqual. Mae Ofqual yn rheoleiddiwr cymwysterau a sefydlwyd o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Mae swyddogaethau Ofqual yn debyg i swyddogaethau Cymwysterau Cymru. Caniateir i gorff dyfarnu gael ei gydnabod gan Ofqual a chan Gymwysterau Cymru o dan y priod gyfundrefnau deddfwriaethol.
79.Mae adran 35 yn atal unrhyw amodau cydnabod a osodir gan Ofqual rhag bod yn gymwys i ddyfarnu ffurf ar gymhwyster yng Nghymru sydd wedi ei dyfarnu fel pe bai wedi ei chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru. Byddai amodau cydnabod ac amodau cymeradwyo Cymwysterau Cymru yn gymwys o dan yr amgylchiadau hyn; ni fyddai amodau cydnabod Ofqual yn gymwys. Mae ystyr dyfarnu ffurf ar gymhwyster yng Nghymru wedi ei nodi yn is-adran (4) ac mae adran 57(4) hefyd yn berthnasol.
80.Caniateir i gymwysterau nad ydynt wedi eu dyfarnu fel rhai sydd wedi eu cymeradwyo ond sydd wedi eu rheoleiddio o dan amodau cydnabod Cymwysterau Cymru, gan gynnwys unrhyw gymwysterau dynodedig, gael eu rheoleiddio gan Ofqual hefyd (gweler adran 36 lle y caiff Cymwysterau Cymru reoleiddio, drwy amodau cydnabod, gymwysterau a ddyfernir yng Nghymru sydd o fewn cydnabyddiaeth y corff hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu cymeradwyo). Mae adran 35 yn sicrhau nad oes gorgyffwrdd o’r fath yn digwydd mewn perthynas â ffurfiau ar gymwysterau a ddyfernir fel rhai sydd wedi eu cymeradwyo o dan Ran 4 o’r Ddeddf; mae adrannau 57(8) a 22(4) yn esbonio beth yw’r ystyr pan fo cymhwyster wedi ei ddyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd. Nid yw adran 35 yn effeithio ar gymhwyso amodau cydnabod (os oes rhai) a osodir gan Ofqual i ddyfarnu yng Nghymru ffurfiau ar gymhwyster nad ydynt wedi eu dyfarnu fel rhai a gymeradwywyd – er enghraifft, cymwysterau dynodedig neu gymwysterau eraill nad ydynt wedi eu dyfarnu fel cymwysterau a gymeradwywyd gan Gymwysterau Cymru a gallant, yn lle hynny, fod yn rhai y mae Ofqual yn rheoleiddio mewn perthynas â hwy.
81.O dan adran 36, mae amodau cydnabod a osodir gan Gymwysterau Cymru ar gorff cydnabyddedig yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu cymwysterau gan y corff yng Nghymru, y mae’r corff wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hwy. Mae hyn yn cwmpasu pob cymhwyster o fewn ei gydnabyddiaeth, ac nid dim ond unrhyw un neu ragor a gymeradwyir o dan Ran 4 neu a ddynodir o dan adran 29. Caniateir i gyrff cydnabyddedig gael eu rheoleiddio hefyd drwy amodau cydnabod a osodir gan Ofqual (o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009) mewn cysylltiad â chymwysterau a ddyfernir yng Nghymru, ac eithrio’r ffurfiau a ddyfernir fel rhai a gymeradwywyd. Y rheswm dros hyn yw nad yw adran 35 ond yn atal amodau cydnabod Ofqual rhag bod yn gymwys mewn cysylltiad â ffurfiau ar gymwysterau a ddyfernir yng Nghymru fel rhai a gymeradwywyd.
82.Ni fydd amodau cydnabod a osodir gan Gymwysterau Cymru yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu ffurf ar gymhwyster y tu allan i Gymru.
83.Y ffordd y bydd Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cyrff dyfarnu a chymwysterau o fewn ei gylch gwaith yw drwy amodau cydnabod o dan Ran 3 ac amodau cymeradwyo o dan Ran 4. Mae pwerau gorfodi o dan y Rhan hon yn sicrhau bod camau yn gallu cael eu cymryd yn achos methiant, neu fethiant tebygol, i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau hynny. Yn ogystal, mae gan Gymwysterau Cymru y pŵer i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl (yn Atodlen 3), y pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl (yn adran 27) a’r pŵer i ddirymu dynodiad (yn adran 32). Wrth arfer y pwerau o dan y Rhan hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion ynghylch gweithgareddau rheoleiddiol a nodir yn adran 54(2) (cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol). Gweler hefyd adran 47 o ran y gofyniad i lunio datganiad o’i bolisi mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan y Rhan hon.
84.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i’w gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu gymryd camau (neu beidio â chymryd camau), drwy ddyroddi cyfarwyddyd ysgrifenedig i’r corff dyfarnu hwnnw. Dim ond pe bai Cymwysterau Cymru yn barnu bod y corff dyfarnu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag un neu ragor o’r amodau cydnabod a/neu un neu ragor o’r amodau cymeradwyo, y mae’r corff dyfarnu yn ddarostyngedig iddynt, y gallai cyfarwyddyd gael ei ddyroddi. Rhaid i unrhyw gamau y mae Cymwysterau Cymru yn eu gwneud yn ofynnol (neu’n eu gwahardd) drwy’r cyfarwyddyd fod at ddiben sicrhau bod y corff dyfarnu yn cydymffurfio â’r amod.
85.Rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff dyfarnu os yw’n bwriadu dyroddi cyfarwyddyd a rhaid iddo roi i’r corff dyfarnu y rhesymau dros y cyfarwyddyd arfaethedig a phennu pa bryd y mae’n bwriadu gwneud y penderfyniad. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall y corff dyfarnu gyflwyno sylwadau cyn i’r penderfyniad gael ei wneud ac os yw’n gwneud hynny, rhaid i Gymwysterau Cymru eu hystyried. Os yw Cymwysterau Cymru, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, yn bwrw ati i ddyroddi cyfarwyddyd, rhaid iddo wneud hynny yn ysgrifenedig a rhaid i’r corff dyfarnu gydymffurfio ag ef. Os nad yw’n cydymffurfio, caiff Cymwysterau Cymru wneud cais i’r Llys am orchymyn mandadol.
86.Ni fyddai’r pŵer hwn i roi cyfarwyddydau yn rhagwahardd Cymwysterau Cymru rhag ceisio ymdrin ag unrhyw bryderon o ran methiannau posibl i gydymffurfio ag amodau drwy drafodaethau gyda chyrff dyfarnu.
87.Mae’r adrannau hyn yn:
galluogi Cymwysterau Cymru i osod cosb ariannol ar gorff dyfarnu am beidio â chydymffurfio ag amodau a nodi’r gofynion mewn perthynas â rhoi hysbysiad am gosb o’r fath;
darparu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar sut i benderfynu ar y swm i’w dalu;
galluogi cyrff dyfarnu i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn cosb o’r fath; a
galluogi Cymwysterau Cymru i adennill llog ar unrhyw ran o’r gosb sydd heb ei thalu erbyn amser penodol.
88.O dan adran 47(2)(i) a (j) rhaid i Gymwysterau Cymru nodi yn ei ddatganiad o bolisi yr amgylchiadau pan fo’n debygol o osod cosb o’r fath a’r ffactorau y bydd yn eu hystyried wrth benderfynu ar y swm i’w osod.
89.Os yw’n ymddangos i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu wedi methu â chydymffurfio ag amod o ran ei gydnabod neu ag amod cymeradwyo y mae ei gymhwyster a gymeradwywyd yn ddarostyngedig iddo, caiff osod cosb ariannol (gweler adran 38(1) a (2)).
90.Fodd bynnag, rhaid i Gymwysterau Cymru yn gyntaf roi hysbysiad i’r corff dyfarnu am ei fwriad i osod cosb ariannol, gan roi ei resymau, gan bennu’r swm arfaethedig a’r cyfnod y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu gwneud ei benderfyniad pan ddaw i ben. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle i’r corff dyfarnu i gyflwyno sylwadau. Yn yr achos hwn, rhaid darparu ar gyfer isafswm cyfnod o 28 o ddiwrnodau (gan ddechrau o’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad).
91.Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu, ar ôl iddo ystyried unrhyw sylwadau, osod cosb ariannol, rhaid iddo nodi hyn mewn hysbysiad ysgrifenedig pellach, gan bennu’r swm, y cyfnod y mae rhaid i’r taliad gael ei wneud ynddo (rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad) a nodi’r wybodaeth o ran y seiliau drosto, y modd y caniateir i’r taliad gael ei wneud, hawliau apelio o dan adran 39 a chanlyniadau peidio â thalu.
92.Bydd rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn nodi’r gofynion o ran y modd y mae’r swm i gael ei gyfrifo. Rhaid i’r rheoliadau hyn gael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddynt allu cael eu gwneud (gweler adran 55(2)). Yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a osodir gan y rheoliadau hynny, caiff Cymwysterau Cymru benderfynu ar swm y gosb, er fod rhaid ei fod wedi nodi’r ffactorau y mae’n debygol o’u hystyried wrth benderfynu ar y swm hwnnw yn ei ddatganiad polisi (adran 47).
93.Caiff corff dyfarnu apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad i osod cosb ariannol neu yn erbyn penderfyniad ar swm y gosb. Rhaid i’r apêl gael ei gwneud ar y seiliau a nodir yn adran 39(2). Mae llog hefyd yn daladwy ar unrhyw swm o gosb ariannol nad yw wedi ei dalu ar ôl y “dyddiad cymwys”, a ddiffinnir yn adran 40(2), ac eithrio unrhyw gyfnod pan fo’r gofyniad i dalu wedi ei atal dros dro o dan adran 39(3). Y gyfradd llog yw’r hyn a bennir yn adran 17 o Deddf Dyfarniadau 1838. Ni chaniateir i gyfanswm y llog fod yn fwy na swm y gosb.
94.Mae’r adrannau hyn yn galluogi Cymwysterau Cymru i adennill costau yr aeth iddynt mewn cysylltiad â gosod sancsiwn. Caniateir mynd i gostau naill ai wrth roi cyfarwyddyd (adran 37), gosod cosb ariannol (adran 38) neu am dynnu cydnabyddiaeth yn ôl (paragraff 19 o Atodlen 3).
95.Mae adran 41 yn disgrifio’r math o gostau y caniateir iddynt gael eu hadennill ac mae’n pennu’r modd y gall Cymwysterau Cymru ei gwneud yn ofynnol i gostau gael eu hadennill a’r manylion sydd i’w darparu i’r corff dyfarnu.
96.Mae adran 42 yn galluogi cyrff dyfarnu i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a nodir yn is-adran (2) yn erbyn penderfyniad gan Gymwysterau Cymru i adennill costau neu o ran swm y costau.
97.Mae adran 43 yn darparu i log gronni ar unrhyw swm o gostau nad yw wedi ei dalu ar ddiwedd y cyfnod sy’n gorffen â’r “dyddiad cymwys” fel y’i diffinnir yn adran 43(2) (ac eithrio unrhyw gyfnod pan fo’r gofyniad i dalu yn cael ei atal dros dro o dan adran 42(3)). Rhaid i gyfanswm y llog beidio â bod yn fwy na swm y costau.
98.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i wneud cais i ynad heddwch am orchymyn i’w alluogi i fynd i mewn i fangre corff dyfarnu i arolygu a chopïo cofnodion a dogfennau, neu eu symud o’r fangre, a’i gwneud yn ofynnol cael mynediad at ddyfeisiau electronig, cyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig ac arolygu a gwirio eu gweithrediad. Pan fo gorchymyn yn ei le, rhaid i’r person awdurdodedig gael cymorth yn unol â’r hyn sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person awdurdodedig. Dim ond aelod o staff sydd wedi ei awdurdodi gan Gymwysterau Cymru at ddibenion yr adran hon a gaiff wneud cais i’r ynad heddwch. Dim ond os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni bod y gofynion yn is-adrannau (3) i (5) wedi eu bodloni y gellir gwneud gorchymyn. Os rhoddir gorchymyn, caiff aelod awdurdodedig o staff Cymwysterau Cymru fynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw amod cydnabod neu gymeradwyo, y mae cydnabyddiaeth y corff dyfarnu, neu ffurf ar gymhwyster a ddyfernir ganddo, yn ddarostyngedig iddo, wedi ei dorri. Caiff y gorchymyn ganiatáu neu ei gwneud yn ofynnol i swyddog heddlu fynd gyda’r person awdurdodedig. Caiff y person awdurdodedig a’r swyddog heddlu (os bydd yn bresennol) wneud yr amryw bethau a restrir yn is-adran (6) at y diben hwnnw. Os oes angen i’r swyddog heddlu sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig ddefnyddio grym rhesymol i alluogi i’r pwerau gael eu harfer, yna caniateir hynny (is-adran (9)).
99.Mae gan Gymwysterau Cymru y pŵer o dan yr adran hon i ddarparu gwasanaethau ymgynghori a gwasanaethau eraill ar sail fasnachol ac i godi ffioedd am y rhain. Caiff Cymwysterau Cymru ddatblygu arbenigedd mewn perthynas â chymwysterau a allai fod o werth masnachol. Yn wahanol i sefyllfa pan fo unrhyw ffioedd i’w codi mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoleiddiol (y cynllun y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ymlaen llaw ar ei gyfer o dan adran 49), bydd Cymwysterau Cymru yn gallu pennu ei raddfa ffioedd ei hun ar gyfer gweithgareddau masnachol heb gyfeirio at Weinidogion Cymru.
100.Er enghraifft, efallai y bydd Cymwysterau Cymru yn meddwl ei bod yn hwylus darparu gwasanaethau o’r fath drwy gwmni. Mae’r adran hon yn caniatáu i Gymwysterau Cymru ddarparu’r gwasanaethau drwy gwmni a berchenogir yn gyfan gwbl, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. O dan adran 47, rhaid i Gymwysterau Cymru nodi datganiad o’i bolisi o ran arfer y swyddogaeth hon.
101.Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion a nodir yn adran 54(2) (cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol). Gweler hefyd adran 47 o ran y gofyniad i lunio datganiad o’i bolisi mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan y Rhan hon.
102.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i adolygu’n barhaus y dyfarniad o gymwysterau a gymeradwywyd ac a ddynodwyd a gweithgareddau eraill cyrff cydnabyddedig sy’n berthnasol i’w cydnabyddiaeth, ynghyd â chynnal unrhyw adolygiadau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar gymwysterau (mae “cymhwyster“ wedi ei ddiffinio yn adran 56. Er enghraifft, caiff Cymwysterau Cymru gynnal adolygiad o brosesau sicrhau ansawdd corff cydnabyddedig unigol, neu caiff benderfynu adolygu’r prosesau ar gyfer cyflenwi asesiadau ar-lein yr holl gyrff dyfarnu y mae’n eu cydnabod. Mewn perthynas â chymwysterau a gymeradwywyd neu a ddynodwyd, caiff Cymwysterau Cymru, er enghraifft, benderfynu adolygu ffurf ar gymhwyster Bioleg TGAU un corff dyfarnu, neu caiff benderfynu, er enghraifft, adolygu pob cymhwyster a gymeradwywyd a/neu ddynodwyd ar lefel benodol. Caiff Cymwysterau Cymru hefyd, er enghraifft, ddymuno cynnal adolygiad o gymwysterau a ddyfernir gan gyrff nad ydynt wedi eu cydnabod ganddo neu gymwysterau y mae cyrff cydnabyddedig wedi penderfynu eu heithrio rhag cael eu cydnabod.
103.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru adolygu ei rôl ei hun a rôl cyrff dyfarnu yn gyson. Caniateir i’r ddyletswydd hon, er enghraifft, gwmpasu ystyried a ddylai Cymwysterau Cymru ddod yn gorff dyfarnu ac ym mha ffordd, mewn amser. Byddai angen deddfwriaeth bellach i wneud hyn (gweler paragraffau 6 a 7 uchod).
104.Mae’r adran hon hefyd yn rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i wneud neu i gomisiynu gwaith ymchwil ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig â chymwysterau. Caiff Cymwysterau Cymru ddefnyddio ei staff ei hun i wneud y gwaith ymchwil hwn, neu caiff ofyn i eraill ei wneud ar ei ran.
105.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru gyhoeddi gwybodaeth sy’n nodi sut y mae’n bwriadu mynd ati i gyflawni ei swyddogaethau rheoleiddiol allweddol. Diben y datganiad polisi yw gwneud y ffordd y mae Cymwysterau Cymru yn debygol o fynd ati i gyflawni ei swyddogaethau yn dryloyw i’r rheini y mae’n bosibl y bydd yn effeithio arnynt a’r cyhoedd yn gyffredinol. Rhaid i’r datganiad gynnwys gwybodaeth am y materion a restrir yn is-adran (2), gan y gallai’r materion hyn gael effaith sylweddol ar gyrff dyfarnu a’r modd y maent yn cynnal eu busnes.
106.Yn ogystal, mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru lunio datganiad am yr amgylchiadau y mae’n bwriadu ymgynghori ynddynt a’r modd y mae’n bwriadu gwneud hynny. Nid yw hyn yn gyfyngedig i ymgyngoriadau ysgrifenedig, a byddai hefyd yn cwmpasu ffurfiau eraill ar ryngweithio ag eraill gyda golwg ar gael eu safbwyntiau.
107.Rhaid i’r datganiadau hyn gael eu hadolygu’n gyson a’u diwygio, os yw hynny’n briodol. Rhaid cyhoeddi’r datganiad cyntaf ac unrhyw ddatganiadau diwygiedig dilynol.
108.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru gyhoeddi gwybodaeth sy’n nodi’r ffyrdd y bydd yn ymdrin â chwynion y mae’n eu cael, pa un a ydynt am arfer ei swyddogaethau ei hun, yn ymwneud yn benodol â dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd neu a ddynodwyd, neu’n ymwneud ag unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig sy’n berthnasol i’w gydnabyddiaeth. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru benderfynu pa drefniadau y bydd yn eu dilyn mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r mathau hyn o gwynion, a chyhoeddi’r trefniadau hyn. Caniateir i’r trefniadau fod yn wahanol yn unol â’r math o gŵyn. Mae’n bosibl y bydd Caiff Cymwysterau Cymru yn ystyried, unwaith y mae wedi ymdrin â chŵyn hyd at bwynt penodol, fod angen atgyfeirio’r gŵyn at drydydd parti annibynnol a chaiff y trefniadau hyn sydd wedi eu cyhoeddi wneud darpariaeth ar gyfer hyn. Mae is-adran (4) yn diffinio person fel un sy’n ‘annibynnol’ at y diben hwn pan na fo’r person yn aelod o Gymwysterau Cymru nac ychwaith yn aelod o’i staff (neu, mewn achos pan fo’r person annibynnol yn gorff, os nad yw unrhyw un o’i aelodau yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru).
109.Mae’r adran hon yn nodi pwerau Cymwysterau Cymru i godi ffioedd. Os yw Cymwysterau Cymru yn dymuno codi ffioedd ar gyrff dyfarnu mewn cysylltiad â’i weithgareddau rheoleiddiol a restrir yn is-adran (1), rhaid iddo yn gyntaf lunio rhestr o’r ffioedd arfaethedig mewn perthynas â chostau Cymwysterau Cymru mewn cynllun sydd i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Nid yw hyn yn cynnwys swyddogaethau gorfodi yn Rhan 7 (mae pŵer penodol yn adran 41 i Gymwysterau Cymru adennill costau mewn cysylltiad â gosod sancsiynau). Dim ond yn unol â’r cynllun (neu’r cynllun fel y’i diwygiwyd) y caiff Cymwysterau Cymru godi ffioedd, a rhaid ei fod wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a’i gyhoeddi.
110.Mae’r adran hon yn galluogi Cymwysterau Cymru i weithio gydag eraill, ar yr amod ei fod yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad â’i swyddogaethau ei hun. Er enghraifft, efallai y bydd Cymwysterau Cymru am gydweithio â rheoleiddwyr cymwysterau eraill y DU mewn perthynas ag adolygu ffurfiau dynodedig ar gymhwyster sydd hefyd yn cael eu rheoleiddio gan reoleiddwyr eraill, neu ymchwilio i gwynion ynghylch y ffurfiau dynodedig hynny.
111.Mae’r adran hon yn ymdrin â sut y caniateir i’r pwerau o dan y Ddeddf hon i wneud rheoliadau gael eu harfer a pha bethau y caniateir iddynt eu cynnwys. Mae’r rheoliadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) i gael eu gwneud drwy offeryn statudol yn dilyn y weithdrefn gadarnhaol sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo offeryn drafft cyn y gall yr offeryn gael ei wneud. Mae’r pwerau i wneud y rheoliadau y cyfeirir atynt yn cael eu darparu yn adrannau 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol), 38(3) (pŵer i wneud rheoliadau ynghylch swm cosbau ariannol) a 59 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol). Ond os nad yw rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol yn diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid iddynt gael eu gwneud drwy offeryn statudol ond mae’r weithdrefn negyddol yn gymwys (is-adran(3)).
112.Mae’r adran hon yn diffinio “cymhwyster” at ddibenion y Ddeddf. Mae graddau o lefelau amrywiol wedi eu heithrio.
113.Ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb, mae’r diffiniad yn ei gwneud yn ofynnol bod y cymhwyster wedi ei “ddyfarnu yng Nghymru”. Mae ystyr yr ymadrodd hwn yn y cyd-destun hwn wedi ei esbonio yn is-adran (2). Mae pa un a ddyfernir cymhwyster yng Nghymru yn dibynnu yn rhannol ar leoliad yr asesiad, neu ddarpar asesiad mewn cysylltiad â’r cymhwyster, y mae rhaid iddo fod yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, yn hytrach na lleoliad y cyrff dyfarnu. Mae adran 57(4) yn esbonio ymhellach beth yw ystyr hyn.
114.Mae dyfarnu cymhwyster yn cael ei ddiffinio i gynnwys dyfarnu credydau mewn cysylltiad ag elfennau cymhwyster ac i gymhwyster a ddyfernir gan un neu ragor o gyrff gyda’i gilydd. Mae cyfeiriadau at ffurf ar gymhwyster yn gyfeiriadau at y fersiwn o gymhwyster y mae corff dyfarnu penodol yn ei chynnig neu’n dymuno ei chynnig.
115.Mae is-adran (1) yn darparu bod y Ddeddf i’w darllen ar y cyd â Deddf Addysg 1996. Mae hyn yn golygu bod darpariaethau cyffredinol a diffiniadau cyffredinol yn y Ddeddf honno yn gymwys i’r Ddeddf hon. Er enghraifft, mae i’r term “anghenion addysgol arbennig” (a ddefnyddir yn is-adran (5)) yr un ystyr yn y Ddeddf hon ag a roddir i “special educational needs” yn Neddf Addysg 1996 (gweler adran 312 o’r Ddeddf honno). Ond pan fo gan ymadrodd yn y Ddeddf hon ddehongliad gwahanol i’r hyn a geir yn Neddf Addysg 1996, y diffiniad yn y Ddeddf hon sy’n gymwys yn hytrach na’r diffiniad yn Neddf Addysg 1996.
116.Mae is-adran 3 yn nodi diffiniadau sy’n hunanesboniadol ac mae is-adran (4) yn delio â’r hyn a olygir i berson gael ei asesu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, sy’n dibynnu ar y lleoliad lle y mae’r dysgwr yn gwneud y gweithgareddau sy’n cael eu hasesu (er enghraifft sefyll arholiad neu gyflawni gweithgaredd sy’n cael ei arsylwi) yn hytrach na lleoliad y person sy’n llunio barn ar yr asesiad (er enghraifft arholwr sy’n marcio papurau arholiad mewn man arall yn y DU).
117.Mae diffiniadau hefyd wedi eu darparu mewn cysylltiad â’r hyn a olygir yn y Ddeddf wrth gyfeirio at berson sydd ag anhawster dysgu ac at gorff yn cael ei gydnabod mewn cysylltiad â chymhwyster.
118.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth i ystyried sefydlu Cymwysterau Cymru a’r system reoleiddiol newydd.
119.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer unrhyw ddarpariaeth ganlyniadol, ddarpariaeth atodol neu ddarpariaeth gysylltiedig, neu unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed o dan amgylchiadau a nodir.
120.Mae’r adran hon yn darparu i ddarpariaethau penodol yn y Ddeddf ddod i rym pan gaiff y Cydsyniad Brenhinol. Bydd darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym ar y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchmynion cychwyn a wneir o dan yr adran hon.
121.Mae’r adran hon yn hunanesboniadol. Gweler paragraff 72 uchod ynghylch effaith rhestru’r Ddeddf hon fel un o’r Deddfau Addysg.
122.Cyflwynir yr Atodlen hon gan adran 2.
123.Mae’r paragraff hwn yn egluro nad corff i’r Goron yw Cymwysterau Cymru.
124.Mae’r paragraff hwn yn amlinellu aelodaeth Cymwysterau Cymru. Bydd y Prif Weithredwr yn aelod o Gymwysterau Cymru a bydd cadeirydd ac wyth i ddeg aelod arferol yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru.
125.Mae’r paragraffau hyn yn amlinellu’r gofynion a’r cyfyngiadau sy’n ymwneud â phenodiadau, ymddiswyddo a’r posibilrwydd o symud aelodau o Gymwysterau Cymru o’u swydd. Dim ond unwaith y caniateir i’r cadeirydd gael ei ailbenodi fel cadeirydd, ac mae cyfyngiadau ar delerau penodi ac ailbenodi aelodau arferol yn galluogi i aelodaeth Cymwysterau Cymru gael ei hadnewyddu’n rheolaidd.
126.Bydd y prif weithredwr cyntaf yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru, am gyfnod o hyd at dair blynedd a bydd penodiadau dilynol yn cael eu gwneud gan Gymwysterau Cymru. Caniateir ailbenodiadau i rôl y prif weithredwr.
127.Ac eithrio’r prif weithredwr cyntaf, caiff Cymwysterau Cymru benodi ei staff ei hun. (Mae hyn yn ychwanegol at bŵer Gweinidogion Cymru i wneud cynllun trosglwyddo o dan Atodlen 2 i’r Ddeddf i drosglwyddo staff o Lywodraeth Cymru i Gymwysterau Cymru). Bydd Cymwysterau Cymru yn penderfynu ar delerau ac amodau, tâl a darpariaethau pensiwn staff - ond rhaid i’r trefniadau hyn gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Ni fydd staff Cymwysterau Cymru yn weision sifil.
128.Mae’r paragraffau hyn yn rhoi’r pwerau i Gymwysterau Cymru i sefydlu a diddymu pwyllgorau, is-bwyllgorau a chyd-bwyllgorau. Mae Cymwysterau Cymru yn gallu talu tâl a lwfansau i aelodau pob un o’r tri chategori hyn o bwyllgor (oni bai eu bod hefyd yn aelodau o Gymwysterau Cymru neu ei staff).
129.Mae’r paragraffau hyn yw rhoi’r pwerau i Gymwysterau Cymru i ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i aelod o Gymwysterau Cymru, i aelod o staff, i bwyllgor neu i gyd-bwyllgor. Caiff pwyllgor neu gyd-bwyllgor isddirprwyo swyddogaeth i un o’i is-bwyllgorau. Caiff pwyllgorau a chyd-bwyllgorau osod telerau a graddau’r dirprwyo i is-bwyllgor, ond mae unrhyw ddirprwyo, yn achos pwyllgor, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Gymwysterau Cymru ac yn achos cyd-bwyllgor, i gyfarwyddyd a roddir gan Gymwysterau Cymru a’r person y mae’r cyd-bwyllgor wedi ei sefydlu gydag ef. Mae telerau’r dirprwyo ac unrhyw gyfarwyddyd yn llywodraethu’r hyn y caiff pwyllgor ei wneud neu beidio â’i wneud.
130.Caiff Cymwysterau Cymru benderfynu ar y weithdrefn (er enghraifft, y cylch gorchwyl) ar ei gyfer ef ei hun a’i bwyllgorau. Caiff pwyllgorau reoleiddio gweithdrefn yr is-bwyllgorau y maent yn eu sefydlu. Caiff cyd-bwyllgorau osod eu gweithdrefnau eu hunain a gweithdrefnau’r is-bwyllgorau y maent yn eu sefydlu. Nid yw lleoedd gwag o ran aelodaeth neu ddiffygion o ran penodiadau i Gymwysterau Cymru, ei bwyllgorau, is-bwyllgorau neu gyd-bwyllgorau yn effeithio ar ddilysrwydd y trafodion.
131.Mae’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru gofnodi a chyhoeddi buddiannau ei aelodau.
132.Mae’r paragraff hwn yw rhoi’r pŵer i Gymwysterau Cymru i wneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol neu’n briodol mewn perthynas â’i swyddogaethau. Mae is-baragraff (2) yn nodi’r eithriadau i’r sefyllfa gyffredinol honno, gyda’r effaith na all Cymwysterau Cymru fynd y tu hwnt i unrhyw drothwy gwariant a nodir gan Weinidogion Cymru, nac ychwaith cael benthyg neu roi benthyg arian, heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Bydd unrhyw drothwy gwariant yn cael ei nodi mewn hysbysiad a roddir i Gymwysterau Cymru gan Weinidogion Cymru.
133.Mae’r paragraffau hyn yw ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru adrodd yn flynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn pennu’r hyn y mae rhaid i’r adroddiad hwnnw ei gynnwys, gan alluogi Cymwysterau Cymru i gynnwys gwybodaeth ychwanegol. Yn ogystal ag adrodd ar ei waith yn ystod y flwyddyn flaenorol, a nodi ei gynigion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, rhaid i Gymwysterau Cymru adrodd ar unrhyw ganfyddiadau y mae wedi eu gwneud yn y flwyddyn adrodd am effaith ei weithgareddau ar y system gymwysterau, am ei waith i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac am unrhyw gasgliadau y mae wedi dod iddynt drwy waith ymchwil y mae wedi ei wneud. Gallai rhanddeiliaid gynnwys, er enghraifft, dysgwyr, rhieni, cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch, ysgolion, colegau, cyrff dyfarnu, cyrff proffesiynol a rheoleiddwyr eraill.
134.Mae’r flwyddyn adrodd yn rhedeg i 31 Awst bob blwyddyn a rhaid llunio’r adroddiad blynyddol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw. Rhaid i’r adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi. Caiff Cymwysterau Cymru lunio a chyhoeddi adroddiadau ychwanegol fel y mae’n gweld yn dda ar faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau.
135.Mae’r paragraff hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cyllid ar ffurf grantiau i Gymwysterau Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi telerau ac amodau unrhyw grantiau o’r fath.
136.Rhaid i Gymwysterau Cymru sicrhau ei fod yn cadw cyfrifon a chofnodion priodol, ac yn llunio datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ddyroddi cyfarwyddydau i Gymwysterau Cymru o ran llunio’r datganiad o gyfrifon sy’n cwmpasu’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad, y modd y mae angen i’r wybodaeth gael ei chyflwyno, y dull a’r egwyddorion y mae angen i’r datganiad gael ei wneud yn unol â hwy ac unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r datganiad.
137.Mae’r paragraffau hyn yn nodi’r prosesau cyfrifon ac archwilio y mae’n ofynnol i Gymwysterau Cymru eu dilyn; mae’r rhain yn cynnwys llunio a chyflwyno datganiad blynyddol o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 31 Awst bob blwyddyn ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a ddarperir gan Weinidogion Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd a roddir i Gymwysterau Cymru ar unrhyw adeg. Mae’r paragraffau hyn hefyd yn gosod dyletswyddau ar yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â’r datganiad o gyfrifon ac yn diffinio blwyddyn ariannol.
138.Mae’r paragraff hwn yn galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i archwilio perfformiad Cymwysterau Cymru ond nid rhinweddau amcanion polisi Cymwysterau Cymru.
139.Mae’r paragraffau hyn yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol. Effaith y diwygiadau hyn yw:
y bydd Cymwysterau Cymru yn dod yn ddarostyngedig i gael ei adolygu gan Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
bod rhaid i Gymwysterau Cymru lynu wrth ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
y caiff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i Gymwysterau Cymru; a
bod rhaid i Gymwysterau Cymru gydymffurfio â dyletswyddau o dan Deddf Cydraddoldeb 2010.
140.Mae’r Atodlen hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i drosglwyddo eiddo, hawliau, rhwymedigaethau a staff i Gymwysterau Cymru drwy gynllun neu gynlluniau trosglwyddo. Rhaid i Weinidogion Cymru osod y cynllun neu’r cynlluniau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’i darperir ym mharagraff 5.
141.Mae paragraff 1(3) yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r darpariaethau ychwanegol y caniateir iddynt gael eu gwneud yn y cynllun, gan gynnwys creu hawliau a gosod rhwymedigaethau, darparu i faterion sydd wedi eu trosglwyddo gael effaith barhaus, a gwneud darpariaeth sydd yr un fath â darpariaeth a wneir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 neu’n debyg iddi o dan amgylchiadau pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys.
142.Mae paragraff 2 yn caniatáu i gynllun gael ei addasu drwy gytundeb ac i addasiadau o’r fath gael eu hôl-ddyddio i ddyddiad gwreiddiol y cynllun.
143.Mae paragraff 3 yn egluro’r modd y mae cyflogaeth unigolion yn y gwasanaeth sifil i gael ei thrin at ddibenion trosglwyddo o dan gynllun i Gymwysterau Cymru.
144.Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer ystyron termau wedi eu diffinio sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon.
145.Mae’r paragraff hwn yn egluro dyddiad dechrau cydnabyddiaeth corff dyfarnu ac yn pennu’r tri amgylchiad pan ddaw cydnabyddiaeth i ben.
146.Mae’r paragraffau hyn yn gosod dyletswydd ar Gymwysterau Cymru i gyhoeddi ‘amodau cydnabod safonol’ a fydd yn gymwys i gyrff dyfarnu unwaith y byddant wedi cael eu cydnabod. Mae’n debygol y byddai’r amodau cydnabod safonol yn ymwneud ag ystod eang o faterion, megis, er enghraifft, rheoli achosion o wrthdaro buddiannau, darparu staff sydd â’r cymwysterau priodol, rheoli effeithiau andwyol a rheoli risgiau. Bydd amodau cydnabod sylfaenol yn gymwys i gorff a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster hyd yn oed os na gymeradwyir neu os na ddyfernir y cymhwyster hwnnw. Mae’r darpariaethau yn caniatáu i amodau gwahanol gael eu cymhwyso mewn perthynas ag:
mathau gwahanol o gyrff dyfarnu (er enghraifft, ‘cyrff dyfarnu sy’n elusennau’);
mathau gwahanol o gymhwyster (er enghraifft, ‘cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau dynodedig’);
amgylchiadau gwahanol pan gaiff cymhwyster ei ddyfarnu (er enghraifft pan gaiff cymhwyster ei ddyfarnu ar ôl i ddysgwr ailsefyll modiwl); a
disgrifiadau gwahanol o berson y mae cymhwyster yn cael ei ddyfarnu iddo (er enghraifft pan gaiff ei ddyfarnu i ddysgwyr o dan 19 oed).
147.Bydd amodau safonol fel arfer yn gymwys i gyrff dyfarnu cydnabyddedig, ond bydd Cymwysterau Cymru yn gallu penderfynu mewn achosion penodol na fydd rhai o’r amodau safonol a fyddent fel arall yn gymwys yn gymwys a chaiff wneud y penderfyniad hwnnw naill ai wrth roi cydnabyddiaeth neu ar ôl hynny. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn gallu dirymu ei benderfyniad. Mae paragraff 2(6) yn darparu nad yw amodau ’capio ffioedd’ a ‘trosglwyddo’ yn amodau safonol (gweler paragraff 4 o Atodlen 3 am ragor o wybodaeth am amodau capio ffioedd a throsglwyddo sydd wedi eu diffinio fel ‘amodau arbennig’).
148.Gall Cymwysterau Cymru ddiwygio’r amodau safonol, ond os yw’n gwneud hynny rhaid iddo gyhoeddi’r diwygiadau, hysbysu cyrff cydnabyddedig a bod yn glir am y dyddiad y byddant yn gymwys ohono (mewn perthynas â chorff, ni all y dyddiad hwnnw fod cyn y mae wedi ei hysbysu amdano). Caniateir i ddyddiadau dechrau gwahanol fod yn gymwys ar gyfer cyrff gwahanol. Er bod rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw (o dan adran 54) i’r egwyddorion y dylai gweithgareddau rheoleiddiol (megis gorfodi ei amodau safonol) gael eu cyflawni mewn ffordd sy’n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, mae unrhyw achos o dorri’r amodau hyn yn sbarduno’r pwerau gorfodi o dan Ran 7 – ynghyd â’r pŵer i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl o dan baragraff 19(1) o Atodlen 3.
149.Mae’r paragraffau hyn yn nodi’r math arall o amodau (a elwir yn amodau arbennig) y caniateir eu gosod ar gorff dyfarnu cydnabyddedig gan Gymwysterau Cymru, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig iddynt) capio ffioedd (ei gwneud yn ofynnol sicrhau nad yw ffioedd penodol yn mynd y tu hwnt i derfyn penodol); trosglwyddo (ei ddiben yw sicrhau y caniateir i gymhwyster a gymeradwywyd neu a ddynodwyd a ddyfernir gan y corff cydnabyddedig gael ei ddyfarnu gan gorff arall); a’i gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu cydnabyddedig gydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 4. Gwneir darpariaeth i Gymwysterau Cymru ddiwygio neu ddirymu’r amodau arbennig hyn, ac mae gofynion hefyd ynghylch hysbysu ac amseru.
150.Rhaid i ddatganiad polisi Cymwysterau Cymru nodi’r amgylchiadau pan fo cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn debygol o gael ei gwneud yn ddarostyngedig i amod arbennig, pa bryd y mae’r amodau arbennig yn debygol o gael eu hadolygu neu eu diwygio a’r ffactorau sy’n debygol o gael eu hystyried wrth wneud hynny (adran 47(2)).
151.Mae’r paragraffau hyn yn diffinio beth yw amod capio ffioedd. Dim ond mewn perthynas â chymwysterau a gymeradwywyd neu a ddynodwyd a ddyfernir i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg neu hyfforddiant sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus ac sy’n arwain at y cymwysterau hynny y gellir cyfyngu ar ffioedd (er enghraifft ffioedd cofrestru ar gyfer arholiad). Caniateir i ffioedd a godir o ganlyniad i’r ddarpariaeth o wasanaethau neu gyfleusterau gan y corff mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymwysterau hynny i ddysgwyr o’r fath, er enghraifft ffioedd a godir am ddarparu tystysgrif newydd yn lle’r un wreiddiol, gael eu cyfyngu gan amod capio ffioedd hefyd. Rhaid i Gymwysterau Cymru fod wedi ei fodloni ei bod yn briodol gosod yr amod i sicrhau gwerth am arian. Mae adran 47(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru nodi yn ei ddatganiad polisi y meini prawf y mae’n debygol o’u cymhwyso wrth benderfynu a yw’n briodol gosod amod capio ffioedd, y materion sy’n debygol o gael eu hystyried wrth benderfynu ar y terfyn a bennir ynddo a chyfnod para tebygol yr amod. Diffinnir cwrs addysg sy’n cael ei gyllido’n gyhoeddus ym mharagraff 6(2).
152.Mae paragraff 8 yn nodi’r broses y caiff Cymwysterau Cymru osod amod capio ffioedd drwyddi, gan gynnwys y gofyniad i roi hysbysiad i’r corff dyfarnu o dan sylw am ei fwriad i osod yr amod, rhoi resymau dros ei fwriad i osod yr amod a dweud pa bryd y mae’n bwriadu penderfynu pa un ai i osod yr amod. Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried sylwadau a gyflwynir gan y corff ac os yw’n penderfynu gosod yr amod, rhaid hysbysu’r corff am hyn a hefyd am ei hawl i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad. Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddweud pa bryd y mae’r amod yn cymryd effaith os nad yw’r corff yn gwneud cais am adolygiad.
153.Os yw’r corff yn gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad i osod amod capio ffioedd, mae paragraff 10 yn darparu manylion am y trefniadau y mae rhaid i Gymwysterau Cymru eu gwneud wrth drefnu i adolygydd annibynnol adolygu’r penderfyniad. Yn dilyn yr adolygiad, os yw Cymwysterau Cymru yn cadarnhau ei benderfyniad i osod yr amod, neu’n newid yr amod, yna rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff dyfarnu sy’n cynnwys y manylion a nodir ym mharagraff 10(5).
154.Mae paragraff 11 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru ddilyn yr un weithdrefn ar gyfer diwygio amod capio ffioedd ag ar gyfer dyroddi amod capio ffioedd cychwynnol.
155.Caniateir i amod trosglwyddo alluogi Cymwysterau Cymru i gyfarwyddo corff dyfarnu i drosglwyddo pethau i gorff dyfarnu arall er mwyn i’r corff arall hwnnw ddyfarnu’r cymhwyster. Y seiliau dros roi cyfarwyddyd o’r fath yw bod Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi effeithiau andwyol sylweddol ar ddysgwyr. Os yw’r digwyddiadau a ddisgrifir yn yr amod yn dod i fod, caiff Cymwysterau Cymru gyfarwyddo corff dyfarnu i wneud trefniadau i alluogi corff dyfarnu arall i gyflenwi ffurf a gymeradwywyd neu a ddynodwyd ar gymhwyster. Rhaid i Gymwysterau Cymru nodi mewn datganiad polisi yr amgylchiadau pan fo cyfarwyddyd yn debygol o gael ei roi i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo a phwnc tebygol unrhyw gyfarwyddyd o’r fath (adran 47(2)).
156.Mae paragraffau 13 a 14 yn nodi’r broses i Gymwysterau Cymru pan fo’n bwriadu gwneud y cyfarwyddyd, i’r corff dyfarnu gael ei hysbysu am gyfarwyddyd arfaethedig, ac i’r corff allu gwneud cais am adolygiad o unrhyw benderfyniad dilynol i gyfarwyddo. Mae paragraff 16 yn nodi manylion y broses ar gyfer adolygiad gan berson annibynnol. Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn yr adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad, mae paragraff 16 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff ac mae’n nodi pa fanylion y mae rhaid i’r hysbysiad eu cynnwys.
157.Mae paragraff 15 yn galluogi Cymwysterau Cymru i dalu digollediad i’r corff mewn cysylltiad â cholledion yr aed iddynt wrth gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, ond dim ond os yw Cymwysterau Cymru yn meddwl ei bod yn rhesymol ac yn briodol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau. Rhaid i Gymwysterau Cymru, mewn datganiad polisi o dan adran 47(2), nodi’r materion y mae’n debygol o’u hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud taliad o’r fath ac wrth benderfynu ar ei swm.
158.O dan baragraff 17, caiff corff dyfarnu cydnabyddedig roi hysbysiad ildio i Gymwysterau Cymru gan ofyn iddo dynnu ei gydnabyddiaeth o’r corff dyfarnu – naill ai mewn cysylltiad â phob cymhwyster y’i cydnabyddir ar ei gyfer neu mewn perthynas â chymhwyster penodedig (neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster). Rhaid i’r hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff dyfarnu yn dymuno i’r gydnabyddiaeth ddod i ben. Rhaid i Gymwysterau Cymru roi cydnabyddiaeth o ildio i’r corff dyfarnu sy’n nodi’r dyddiad y bydd y gydnabyddiaeth yn dod i ben. Caniateir i’r dyddiad fod yr un peth â’r dyddiad a gynigir gan y corff dyfarnu neu ddyddiad gwahanol, fel y gwêl Cymwysterau Cymru yn briodol. Rhaid i Gymwysterau Cymru roi rhesymau yn yr hysbysiad o ran pam y mae dyddiad gwahanol i’r un a gynigiwyd gan y corff dyfarnu yn cael ei ddarparu, ac mae paragraff 17(6) yn cyfeirio at y materion y mae rhaid i Gymwysterau Cymru eu hystyried wrth benderfynu ar y dyddiad i’r gydnabyddiaeth gael ei hildio, sef yr angen i osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr a dymuniad y corff dyfarnu i’r gydnabyddiaeth ddod i ben ar y dyddiad y mae wedi ei bennu.
159.O dan baragraff 18, caiff Cymwysterau Cymru, am gyfnod penodedig, drin corff sydd wedi ildio ei gydnabyddiaeth fel pe bai’n parhau i gael ei gydnabod at ddibenion penodedig. Dim ond os yw Cymwysterau Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud darpariaeth o’r fath er mwyn osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr y caiff wneud hynny. Gwneir darpariaeth debyg mewn cysylltiad ag ildio cymeradwyaeth (gweler y nodiadau sy’n mynd gydag adran 26).
160.Mae’r paragraffau hyn yn galluogi Cymwysterau Cymru i roi terfyn ar ei gydnabyddiaeth o gorff dyfarnu mewn cysylltiad â chymhwyster (neu ddisgrifiad o gymhwyster) neu bob cymhwyster y mae’r corff dyfarnu wedi ei gydnabod mewn cysylltiad ag ef. Dim ond os nad yw’r corff dyfarnu yn cydymffurfio ag amodau cydnabod neu amodau cymeradwyo y caniateir i gydnabyddiaeth gael ei thynnu’n ôl. Canlyniadau tynnu’r gydnabyddiaeth yn ôl yw bod Cymwysterau Cymru wedyn yn gallu tynnu cymeradwyaeth i gymwysterau yn ôl o dan adran 27, byddai’r dynodiad hwnnw yn peidio â bod o dan adran 30 ac nid yw’r corff dyfarnu yn gallu gwneud cais mwyach i’w gymwysterau gael eu cymeradwyo neu eu dynodi. Dim ond cyrff cydnabyddedig a all wneud cais i’w cymwysterau gael eu cymeradwyo neu eu dynodi.
161.Mae’r broses ar gyfer tynnu cydnabyddiaeth yn ôl wedi ei nodi ym mharagraffau 20 i 22 ac mae’n cynnwys gofynion i roi hysbysiad gyda rhesymau dros y cynnig i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, i ystyried sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig, i hysbysu’r corff cydnabyddedig am benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl a’i hawl i adolygu ac i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl os yw’r corff dyfarnu yn gwneud cais am adolygiad o’r fath. Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn yr adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid i’r corff dyfarnu cydnabyddedig gael ei hysbysu am y penderfyniad ac am ba bryd y bydd y tynnu’n ôl yn cymryd effaith.
162.Mae paragraff 23 yn nodi bod hysbysiadau a roddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraffau 21 neu 22 (tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, neu gadarnhau penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl) yn gallu gwneud darpariaeth i’r perwyl bod corff y mae ei gydnabyddiaeth wedi ei thynnu’n ôl yn parhau i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gydnabod am gyfnod penodedig ac at ddibenion penodedig. Gwneir hyn er mwyn osgoi effaith andwyol ar ddysgwyr. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a nodir ym mharagraff 23(3). Gwneir darpariaeth debyg mewn cysylltiad â thynnu cymeradwyaeth yn ôl (gweler y nodiadau sy’n mynd gydag adran 28).
163.Mae’r Atodlen hon yn gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth i adlewyrchu bod y Ddeddf hon yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel rheoleiddiwr system newydd o reoleiddio cymwysterau yng Nghymru. Un newid o’r fath yw diddymu swyddogaethau rheoleiddiol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chymwysterau o dan Ddeddf Addysg 1997; newid arall yw cyfyngu ar gymhwyso’r cyfyngiad ar gyllido cyrsiau penodol gydag arian cyhoeddus yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 i Loegr yn unig, gan fod adran 34 yn darparu’r cyfyngiad newydd o ran Cymru. Mae’r Atodlen hefyd yn diddymu darpariaethau anarferedig cysylltiedig.