ATODLEN 1CYMWYSTERAU CYMRU

RHAN 1SEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU

Cyfrifon ac archwilio

33

(1)

Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gymwysterau Cymru gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(2)

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)

archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

(b)

heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.