xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCYMWYSTERAU CYMRU

RHAN 1LL+CSEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU

Cyfrifon ac archwilioLL+C

33(1)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gymwysterau Cymru gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 6.8.2015 gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(c)