ATODLEN 1CYMWYSTERAU CYMRU

RHAN 1SEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU

Cynnal ymchwiliadau i’r defnydd o adnoddau

35

(1)

Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd sydd wedi ei wneud o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau Cymwysterau Cymru.

(2)

Nid yw is-baragraff (1) i’w ddehongli fel pe bai’n rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi Cymwysterau Cymru.