ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU

15Amodau trosglwyddo

Os yw Cymwysterau Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, caiff, os yw’n ystyried ei bod yn rhesymol ac yn briodol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau, dalu digollediad i’r corff mewn cysylltiad â’r golled y mae’r corff wedi ei chael oherwydd cydymffurfio â’r cyfarwyddyd.