- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
18(1)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael y cymhwyster o dan sylw, neu gymhwyster o’r disgrifiad o dan sylw, wneud darpariaeth mewn cydnabyddiaeth o ildio o dan baragraff 17(3) sydd o fewn is-baragraff (2).
(2)Mae darpariaeth o fewn yr is-baragraff hwn yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y corff, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei drin at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.
(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)—
(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a
(b)mae’r corff i gael ei drin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.
(4)Yn y paragraff hwn—
ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio at ddibenion y paragraff hwn;
ystyr “dyddiad ildio” (“surrender date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel yr un y mae’r corff i beidio â chael ei gydnabod pan ddaw i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: